Delyth Isaac
Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes
Fel Pennaeth Newyddion, mae Delyth yn gyfrifol am yr holl wasanaethau newyddion a materion cyfoes sy’n ymddangos ar-lein, ar ddyfeisiau symudol, ar radio ac ar deledu. Mae’n arwain tîm o newyddiadurwyr o bob cwr o Gymru ac yn San Steffan.
Dechreuodd Delyth ei gyrfa gyda phapurau newydd lleol cyn ymuno â Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru fel ymchwilydd. Aeth ymlaen i weithio ym maes cynhyrchu newyddion ar y radio a’r teledu cyn arbenigo mewn cynhyrchu rhaglenni gwleidyddol gan gynnwys pob un o’r rhaglenni canlyniadau’r etholiadau ar gyfer S4C a Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru rhwng 2001 a 2017. Yn 2014, penodwyd Delyth yn Olygydd Gwleidyddol Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru ac yn 2018 daeth yn Olygydd Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Wales Today.
Rhwng 2013 a 2014, bu Delyth yn gweithio fel Uwch Reolwr Cyfathrebu ar gyfer Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru. Buodd yn Ymddiriedolwr gyda Hijnx, cwmni theatr sy’n hyrwyddo cyfleoedd i actorion ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth am ddeng mlynedd. Mae yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru i’r Cyngor Prydeinig.
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, mynychodd Delyth Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Yna, bu’n astudio Gwleidyddiaeth Ffrainc ac Ewrop ym Mhrifysgol Manceinion gan dreulio blwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Rennes. Mae Delyth yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu.
-
Garmon Rhys
Cyfarwyddwr Dros Dro Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru -
Nick Andrews
Pennaeth Comisiynu -
Rhys Evans
Pennaeth Materion Corfforaethol a Polisi Cyhoeddus -
Carolyn Hitt
Golygydd Radio Wales a Chwaraeon Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru -
Sian Gwynedd
Pennaeth Diwylliant a Phartneriaethau -
Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg, Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru -
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymru -
Gareth Davies
Cyfarwyddwr Marchnata & Chynulleidfaoedd -
Delyth Isaac
Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes -
Sarah Last
Pennaeth Adnoddau Dynol -
Nia Morgan
Uwch Bartner Busnes, Cyllid -
Kate Scott-Williams
Cyfarwyddwr Busnes a Gweithrediadau Dros Dro