Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Beth a wnawn

Darlledwr y genedl yw Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru, yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru, yn ogystal â rhaglenni o fri i'r rhwydwaith

Ar y teledu a'r radio

Mae ein rhaglenni teledu lleol ar gael ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ONE Wales & Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Wales HD, Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ TWO Wales, Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ iPlayer ac S4C. Rydym hefyd yn cynnig dwy orsaf radio genedlaethol, Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Cymru yn Gymraeg a Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Wales yn Saesneg.

Mae ein portffolio o raglenni radio i'r rhwydwaith yn cynnwys ffefrynnau megis The Choir a Composer of the Week i Radio 3, ac amryw gynhyrchiad drama i Radio 4.

Ar gyfer teledu, gyda chwmnïau annibynnol yng Nghymru rydym yn cynhyrchu rhaglenni i sianeli digidol y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ sef Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Three, Four a CÄ¢¹½¶ÌÊÓÆµ, ac mae ein cynyrchiadau teledu rhwydwaith, gan gynnwys Doctor Who a Casualty, yn denu miliynau o wylwyr drwy'r byd i gyd.

S4C

Mae gennym berthynas unigryw gyda S4C ac rydym yn cyfrannu tua 540 awr o raglenni Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru Wales at amserlen gyfan S4C bob blwyddyn, wedi ei hariannu gan y drwydded deledu. Adnewyddodd y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ac S4C  a thrwy hyn y mae rhaglenni'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ i S4C yn cael eu cytuno.

Mae Ymddiriedolaeth y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ hefyd yn sefydlu cylch gwaith ar gyfer cynnyrch teledu iaith Gymraeg y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ. Mae'r ddwy broses yma yn sicrhau bod rhaglenni'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar S4C yn cyfrannu'n uniongyrchol i strategaeth rhaglenni S4C gan ddarparu'r dibenion cyhoeddus sydd eu hangen gan y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn ei Siarter a'i Gytundeb.

Ar-lein

Mae gwasanaethau ar-lein Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru yn cyrraedd dros dair miliwn o ddefnyddwyr unigryw bob wythnos, gyda chynnwys yn cael ei weld ar gyfrifiaduron, setiau teledu â chyswllt â’r we, ffonau symudol a dyfeisiau tabled.

Ar gyfer fersiiynau Cymru a Wales o Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Online, mae’r gwasanaeth yn darparu cynnwys Newyddion a Chwaraeon, iPlayer, yr Hafan, Bitesize, Tywydd, Teithio, Radio a Cherddoriaeth, CÄ¢¹½¶ÌÊÓÆµ a CBeebies.

Mae cyfryngau cymdeithasol ar lwyfannau megis  a  yn dod yn fwyfwy pwysig, gyda chynnydd enfawr yn y defnydd ohonyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Cymru Fyw hefyd yn darparu golwg unigryw ar Gymru yn Gymraeg.

Ynghyd â chynnwys lleol, mae Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru hefyd yn cynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer cynyrchiadau rhwydwaith, o Doctor Who a Sherlock i Crimewatch a Wizards vs Aliens.

Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ (Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ NOW) wedi bod yn rhan ganolog o fyd cerddoriaeth yng Nghymru. Dyma’r unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, ac mae’n perfformio cyngherddau a darllediadau byw gydag arweinyddion ac unawdwyr blaenllaw, gan gynnwys y Prif Arweinydd Ryan Bancroft. Mae Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ NOW yn falch o ddathlu diwylliant Cymru ac mae’n rhoi llwyfan i gerddoriaeth a thalentau lleol, sy’n aml yn perfformio yn Gymraeg. Mae hefyd yn mynd â cherddoriaeth i ysgolion, i ysbytai ac i gymunedau o Fôn i Fynwy, gan ysbrydoli cerddorion y dyfodol drwy weithdai a gwaith yn y gymuned. Mae’r gerddorfa’n ymddangos yn rheolaidd ym Mhroms y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ac yng nghystadleuaeth Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Canwr y Byd Caerdydd, ac fe gaiff ei pherfformiadau eu darlledu ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Yn ogystal â chynnal cyngherddau a digwyddiadau, mae Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ NOW hefyd yn recordio cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu poblogaidd fel Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen. Yn ei chartref, sef Neuadd Hoddinott y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ym Mae Caerdydd, mae Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf sydd â chamerâu ar gyfer ffrydio’n fyw a darlledu ar y teledu er mwyn mynd â cherddoriaeth Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ NOW i gynulleidfa ehangach ym mhob cwr o Gymru a’r byd! Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn .

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: