Ydych chi’n chwilio am stiwdio i'w llogi, cyfleusterau Darlledu Allanol (OB), ôl-gynhyrchu, dylunio neu dalent? Mae gan Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru Wales le stiwdio, cyfleusterau cynhyrchu a staff profiadol ar gael i ddiwallu anghenion y diwydiant, boed hynny ar gyfer gwaith mewnol y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ neu’r sector annibynnol.
Mae gan Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru Wales enw da heb ei ail am gynhyrchu a chreu rhaglenni ar gyfer y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ a’r sector annibynnol yng Nghymru ac ymhellach. O Crimewatch a Newsnight i bêl-droed rhyngwladol, Doctor Who, a The Undeclared War ar Channel 4, mae ein cyfleusterau a’n gwasanaethau wedi’u defnyddio gan raglenni amlwg ar gyfer sianeli amrywiol y tu hwnt i’r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ gan gynnwys Sky Arts, Sky History, Channel 4, S4C a Channel 5.
Mae Sgwâr Canolog y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn gyfleuster diogel o’r radd flaenaf yng nghanol dinas Caerdydd, gyferbyn yn uniongyrchol â Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog a Chyfnewidfa Drafnidiaeth Caerdydd. Mae’n cynnig cyfleusterau darlledu, mannau swyddfa a pharcio, gyda dewisiadau llogi gwlyb a sych ar gael.
Am bob ymholiad, e-bostiwch: walesopsenquiries@bbc.co.uk
Mwy o wybodaeth
Cysylltwch â ni
I holi am ddefnyddio Stiwdios Teledu Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru, Cyfleusterau Darlledu Allanol, Radio, Ôl-gynhyrchu neu gyfleusterau Dylunio Graffeg ar draws pob genre o gynhyrchu teledu a sain, anfonwch ymholiadau a cheisiadau am ddyfynbris i: walesopsenquiries@bbc.co.uk