Episode details

Available for over a year
Yr hawl i fod yn fardd “I ba raddau,” gofynnaf innau mewn seminar, “y gallwn ddadlau bod geiriau caneuon yn rhan o’n llên?” “Ma’ nhw’n rhy syml”, dywed un, sydd o’r farn y dylai bardd wneud pethau’n anodd i’w darllenydd; Wrth glustfeinio ar y trafod, dwi’n clywed, “Sdim cytgan mewn cerdd, i fod...” I eraill, y label ‘boblogaidd’ yw’r her, wrth ofyn: lle ma’r grefft yn eu llinellau? Ond ar lwyfan, mae rhai yn creu delweddau cain mewn geiriau gan gyffwrdd calon torf lawn cymaint ag un o ‘gerddi mwya’r ganrif’: Heb alaw, pwy sy’i ddweud na fyddai’r rhain yn waith beirdd, nid jyst cantorion?
Programme Website