Main content
Bardd Mis Mai - Elen Ifan
Yr hawl i fod yn fardd
“I ba raddau,” gofynnaf innau
mewn seminar, “y gallwn ddadlau
bod geiriau caneuon yn rhan o’n llên?”
“Ma’ nhw’n rhy syml”, dywed un,
sydd o’r farn y dylai bardd
wneud pethau’n anodd i’w darllenydd;
Wrth glustfeinio ar y trafod,
dwi’n clywed, “Sdim cytgan
mewn cerdd, i fod...”
I eraill, y label ‘boblogaidd’
yw’r her, wrth ofyn: lle ma’r grefft yn eu llinellau?
Ond ar lwyfan, mae rhai yn creu
delweddau cain mewn geiriau
gan gyffwrdd calon torf lawn cymaint
ag un o ‘gerddi mwya’r ganrif’:
Heb alaw, pwy sy’i ddweud
na fyddai’r rhain yn waith beirdd,
nid jyst cantorion?