ĢƵ

Use ĢƵ.com or the new ĢƵ App to listen to ĢƵ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Can Ysgafn: Amser Maith yn ol

Y Talwrn

Available for over a year

Mi adeiladais i time-machine, neu yn y Gymraeg mashîn teim, er mwyn teithio'n ôl mewn amser i'r adeg pan oedd TH yn ei breim. Na, na, nid y bardd Parry-Williams, er cymaint ei athrylith o, Ond athrylith mwy fyth o beldroediwr, TH Resma o Gwm y Glo. Roedd sôn ei fod wedi cael treial un tro i Lanesra pan oedd o yn iau, ond ni yn y Cwm ga’th y fraint o'i wylio yn anterth ei ddawn ar y cae. Oes aur y bêl gron, gan mlynedd ’n ôl bron, mae pawb yn cofio'r 20au, pan oedd golis yn dew, a'r peli yn drwm, a neb wedi clywed am dactegau. TH oedd y meistr yn arwain y lein, ein hateb ni i Dixie Dean, Ond yn wahanol i flaenwr Everton, gwnâi Resma bob dim wysg ei din. Fe sodlai y bêl i'r rhwyd yn ddi-ball, a'i drwyn am y gôl yn chwedlonol, A phob tro ar ôl sgorio, câi fygyn bach slei, wrth ôl-gamu yn ôl tua'r canol. Yn nhymor ’27 roedd di sgorio gan gwaith namyn un erbyn dechrau mis Ebrill, efo wyth gêm ar ôl doedd mond angen un gôl, a phob gêm oedd yno i'w hennill. A’u hennill a wnaed, ond er cael pêl i draed, roedd rhywbeth go ryfedd yn bod - Er sodli a bwrw sawl postyn a bar, methodd TH â tharo y nod. Drwy’r gêm olaf un roedd y dorf fel un dyn, tu cefn i’r blaenwr rhwystredig, Ond â munud ar ôl sodlodd TH i’r gôl – o ugain llath! “Oo-o-o! Bendigedig!” Ac wrth i'r bêl setlo yng nghornel y rhwyd, gan roi iddo'i ganfed gôl, cyhoeddodd TH: "I AM RESMA!" – ’thgwrs, roedd hyn AMSER MAITH yn ôl. (Lanesra = Arsenal) Geraint Lovgreen 8.5

Programme Website
More episodes