Main content

Can Ysgafn: Amser Maith yn ol

Can Ysgafn: Amser Maith yn ol

Mi adeiladais i time-machine, neu yn y Gymraeg mashîn teim,
er mwyn teithio'n ôl mewn amser i'r adeg pan oedd TH yn ei breim.
Na, na, nid y bardd Parry-Williams, er cymaint ei athrylith o,
Ond athrylith mwy fyth o beldroediwr, TH Resma o Gwm y Glo.

Roedd sôn ei fod wedi cael treial un tro i Lanesra pan oedd o yn iau,
ond ni yn y Cwm ga’th y fraint o'i wylio yn anterth ei ddawn ar y cae.
Oes aur y bêl gron, gan mlynedd ’n ôl bron, mae pawb yn cofio'r 20au,
pan oedd golis yn dew, a'r peli yn drwm, a neb wedi clywed am dactegau.

TH oedd y meistr yn arwain y lein, ein hateb ni i Dixie Dean,
Ond yn wahanol i flaenwr Everton, gwnâi Resma bob dim wysg ei din.
Fe sodlai y bêl i'r rhwyd yn ddi-ball, a'i drwyn am y gôl yn chwedlonol,
A phob tro ar ôl sgorio, câi fygyn bach slei, wrth ôl-gamu yn ôl tua'r canol.

Yn nhymor ’27 roedd di sgorio gan gwaith namyn un erbyn dechrau mis Ebrill,
efo wyth gêm ar ôl doedd mond angen un gôl, a phob gêm oedd yno i'w hennill.
A’u hennill a wnaed, ond er cael pêl i draed, roedd rhywbeth go ryfedd yn bod -
Er sodli a bwrw sawl postyn a bar, methodd TH â tharo y nod.

Drwy’r gêm olaf un roedd y dorf fel un dyn, tu cefn i’r blaenwr rhwystredig,
Ond â munud ar ôl sodlodd TH i’r gôl – o ugain llath! “Oo-o-o! Bendigedig!”
Ac wrth i'r bêl setlo yng nghornel y rhwyd, gan roi iddo'i ganfed gôl,
cyhoeddodd TH: "I AM RESMA!" – ’thgwrs, roedd hyn AMSER MAITH yn ôl.

(Lanesra = Arsenal)

Geraint Lovgreen
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau