Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru
Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru 'Yma i Chi'
Ynys Môn oedd yr ardal ddiweddaraf yng Nghymru i elwa o gydweithrediad cymunedol blaengar gyda Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru fis Mai 2006.
Diwrnod agored Yma i ChiDechreuodd ymgyrch Yma i Chi Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru gyda Diwrnod Agored ym Mona - ewch i weld lluniau'r dydd Sadwrn a'r diwrnod i ysgolion.

Roedd yr uniad dau-fis gyda Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru yn rhoi Ynys Môn o dan chwyddwydr y cyfryngau ac yn cynnwys pob un o feysydd cynnyrch Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru - teledu, Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Cymru, Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Wales a gwasanaethau ar-lein - gan gwmpasu popeth o'r newyddion, y celfyddydau ac addysg i ddrama, cerddoriaeth a chwaraeon.

Fodd bynnag, roedd hwn yn chwyddwydr ychydig yn wahanol - oherwydd y bobl leol oedd yn arwain y ffordd. Bydd pobl leol yn cael eu gwahodd i chwarae rhan 'uniongyrchol' drwy gyfrannu at raglenni, datblygu syniadau am hanesion sy'n bwysig iddyn nhw ac ysgrifennu ar gyfer gwefannau'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ. Bu tîm Lleol yn cydweithio gyda grwpiau ieuenctid ar draws yr ynys i greu tudalennau am eu hardal nhw ac yn cael cymorth ysgolion cynradd yr ynys i adrodd prif chwedlau Môn ar y we.

Bu bwrdd ymgynghori o bobl leol yn datblygu syniadau a gwneud cynlluniau ar gyfer allbwn Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru o'r ardal.

"Mae presenoldeb Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru yn Ynys Môn o fis Ebrill i fis Mai yn rhan o'n menter 'Yma i Chi', sy'n gweithio gyda chymunedau ym mhob cwr o Gymru," meddai'r cydlynydd Alison Quinn o Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru.

Sylwebu pêl-droed Ynys Môn yw'r pumed ardal yng Nghymru i elwa o gyfres o brosiectau cymunedol 'Yma i Chi'. Aeth y fenter ar ymweliad â Dinbych cyn symud ymlaen i Drebiwt yng Nghaerdydd ac i Gaerfyrddin y llynedd yna i ´¡²ú±ð°ù»åâ°ù yn Ne Cymru ym mis Ionawr eleni.

Mae'r digwyddiadau wedi cynnwys popeth o ddarllediad byw o'r rhaglen rygbi Scrum V o'r clwb rygbi lleol yn Ninbych; sioe deithiol am hanes teulu - Look Up Your Genes - Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Wales a chyngherddau cerddoriaeth glasurol amser cinio gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn Butetown; a chlyweliadau am ran yn yr opera sebon Gymraeg Pobol y Cwm a darlledu un o raglenni Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Cymru yn fyw o dafarn leol yng Nghaerfyrddin.

Roedd pob prosiect wedi cychwyn gyda sioe deithiol 'Yma i Chi'arbennig gan Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru lle cafodd pobl leol gyfle i roi cynnig ar sgiliau fel darllen y newyddion, cyflwyno'r tywydd, a sylwebu ar chwaraeon neu i gael eu llun wedi'i dynnu wrth ochr y TARDIS o Doctor Who, sy'n cael ei gynhyrchu gan Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru.

Yn ogystal, roedd y dair tref wedi cynnal amrywiaeth eang o weithdai, cyngherddau a darllediadau allanol gan Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru. Bu Bws Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru ar ymweliad ag ysgolion lleol a chanolfannau cymunedol ac aeth aelodau o dimau gwe bbc.co.uk allan i weithio gyda phobl leol i'w helpu nhw i ddatblygu eu syniadau a'u cyflwyno i sylw cynulleidfa fyd-eang ar y we.

"Mae hwn yn brosiect mawr i Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru," esbonia Huw Llywelyn, un o gydlynwyr 'Yma i Chi'. "Yn ystod ein cyfnod yn Ynys Môn rydyn ni'n gobeithio ennill dealltwriaeth wirioneddol o'r ardal a'r bobl. Bydd hefyd yn galluogi gweddill Cymru i ddysgu mwy am Ynys Môn, gan y bydd yn ganolbwynt ar gyfer cymaint o'n gwasanaethau ar deledu, radio ac ar-lein."

"Rydyn ni wedi derbyn croeso cynnes a chalonogol yn Ynys Môn," ychwanegodd Alison Quinn. "Hoffwn ddiolch i'r bwrdd ymgynghori lleol am eu cefnogaeth a'u brwdfrydedd wrth ein helpu ni i greu cysylltiadau agos â'r gymuned, ac rydyn ni'n gobeithio bydd y rheiny'n parhau ymhell y tu hwnt i'r tri mis o ddigwyddiadau lleol."

Gallwch gysylltu â thîm Yma i Chi Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru drwy anfon e-bost at ymaichi@bbc.co.uk neu drwy ffonio 08703 500 700.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý