Coron arall i Borthmadog Mehefin 2003 Lai na blwyddyn ar ôl dathlu llwyddiant Aled Jones Williams yn Eisteddfod Tyddewi, dyna ddathlu unwaith eto wrth i eneth o Borthmadog, Debbie Ann Williams ennill coron Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru, Tawe, Nedd ac Afan.
Yr ydym, fel ardal, yn ymfalchïo yn ei llwyddiant ac ar ran 'Yr Wylan' y mae'n fraint i mi gael ei llongyfarch.
Cafodd Debbie ei haddysg yn Ysgol Eifion Wyn, Ysgol Eifionydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle, cyn mynd ymlaen i ennill gradd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Y mae'n diolch yn arbennig i'r athrawon Cymraeg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a'r darlithwyr yn Aberystwyth a fu'n gyfrifol am roi'r sylfaen gadarn iddo.Pob dymuniad at y dyfodol Debbie.
Ymysg eraill a flasodd lwyddiant ym Mhrifwyl yr Urdd oedd partïon o Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionydd.
Llongyfarchwn hwy yn galonnog ar eu llwyddiant ac am ddod â bri ac amlygrwydd i ardal 'Yr Wylan'.