Croeso i safle'r Arwydd, un o bapurau bro Ynys Môn. Mae'r fro hon yn cychwyn ym mhentref Pentraeth, ac mae'n cynnwys pentrefi Benllech, Moelfre ac Amlwch a phrydferthwch y Traeth Coch. Yma mae bro Goronwy Owen, a roddodd ei enw i Ysgol a Neuadd ym Menllech. Mae'n ardal ddiwylliannol iawn sy'n gartref i nifer fawr o gorau adnabyddus.