Croeso i safle Papur Dre, papur tref Caernarfon. Mae'r papur yn gymharol newydd, ac yn gwasanaethu trigolion tref gaerog y Cofis. Mae Caernarfon yn dref bwysig i'r gogledd orllewin, yn weinyddol ac yn hanesyddol. Mae'n adnabyddus am iaith liwgar ei thrigolion ac wrth gwrs am y castell, lle cynhaliwyd yr Arwisgiad yn 1969.