Taith Moel Tryfan Gorffennaf 2009 Cynhaliwyd taith mis Mehefin Cymdeithas Hanes y Tair Llan nos Fawrth 9 Mehefin yn ardal Rhosgadfan.
Bu'n daith hynod o ddiddorol dan arweiniad Mr Dewi Jones, Penygroes, ar noson hynod o braf gyda golygfeydd gwych.
Cawsom hanes teuluoedd, tyddynwyr a chwarelwyr yr ardal a'i brofiadau personol, cyn cerdded i ben Moel Tryfan a chael hanes ymweliad Charles Darwin a'r safle.
Bydd y cyfarfod
nesaf nos Fawrth 8 Medi yng nghanolfan Felinwnda am 7:30 yng nghwmni Mr John Dilwyn Williams fydd yn trafod Caernarfon ddoe a heddiw.