Diolch am ddeugain mlynedd o wasanaeth Mawrth 2007 Rhag i rywun sydd wedi darllen y pennawd feddwl bod Luned Siop Llangïan ar fin ymddeol, tydi hi ddim.
Ond cafodd ardal gyfan gyfle i ddiolch iddi nos Fercher diwethaf am ddeugain mlynedd o wasanaeth yn siop a llythyrdy'r pentref.
Daeth ymhell dros gant o bobl at ei gilydd i'r parti pen-blwydd yn y 'Sun', Llanengan - llawer iawn mwy na phoblogaeth Llangïan, ac arwydd bod y siop, a chwmni Luned ei hun, yn dynfa i bobl o ardal llawer ehangach na ffiniau'r pentref,
Diolch i Meinir am drefnu, a diolch i Rhys, a weithiodd mor galed i gadw'r gyfrinach.