Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru
Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bigwn
Sion, Gwenda, Gareth, Bryn a Eifion Williams Brenhines, Bryn a Bwyd
Mehefin 2006
Bryn Dwyfor Williams oedd cynrychiolydd Gogledd Cymru yng nghyfres y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Great British Menu.
Yr ydym yn ymfalchïo yn llwyddiant un o hogiau Dinbych, sef Bryn Dwyfor Williams, a fu'n cynrychioli Gogledd Cymru ar raglen Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ2 Great British Menu.

Y mae Bryn, sy'n 28 oed, yn fab i Eifion a Gwenda Williams, 70, Lon Tywysog, yn frawd i Gareth a Siôn ac yn ŵyr i Mrs Morfydd Williams, Bythynnod Wynne's Parc.

Ei wrthwynebydd ar Great British Menu oedd y fenyw o'r De Angela Hartnett.

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Frenhines yn 80, trefnwyd cystadleuaeth gan y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar gyfer cogyddion gorau Prydain gan edrych wedyn at greu bwydlen 4 cwrs ar gyfer y dathliad mawr.

Gwahoddwyd Bryn i gystadlu ar ôl iddo ddod yn ail yng nghystadleuaeth Roux yn 2005 - ef oedd y Cymro cyntaf i gyflawni'r gamp honno.

Rhoddodd Bryn gyfri da ohono ei hun ar y rhaglenni a chofiodd ei wreiddiau gan sôn am ei deulu a dod yn ôl i'r ardal i gael cynnyrch o fferm ei ewythr yn Llanrhaeadr ac ymweld â siop Alwyn Thomas - yr un a roddodd ei swydd gyntaf iddo.

Bwriad Bryn yw dychwelyd i'w sir enedigol ac agor ei fwyty ei hun rywdro yn y dyfodol ond Llundain yw'r ganolfan ar hyn o bryd.

Braf iawn yw gweld un o hogiau'r dref yn llwyddo mor arbennig. Pob dymuniad da iddo.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý