Croeso i safle papur bro Y Gloran, papur Blaenau'r Rhondda Fawr. Mae'r ardal yn cynnwys y pentrefi sydd yn rhan uchaf Cwm Rhondda Fawr ac yn ymestyn o Dreherbert i'r Gelli a Thonpentre. Erbyn heddiw mae'r pyllau glo i gyd wedi eu cau ac o ganlyniad mae'r ardal yn dioddef lefel uchel o ddiweithdra.