Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Telerau defnyddio'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar gyfer mewnosod cynnwys

Cliciwch yma i ddarllen y telerau hyn yn Saesneg / Click here for Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Embedding terms in English.

Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn eich hannog i fewnosod ei gemau ar eich gwefan ond ar yr amod eich bod yn cytuno i rai telerau (gweler isod). Noder os gwelwch yn dda:

  • fe'ch caniateir i'w defnyddio ar eich gwefan bersonol yn unig
  • defnyddiwch y cod a ddarparwyd a pheidiwch â golygu'r gemau
  • gall y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ddileu'r gemau heb rybudd
  • mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn gwneud y gemau ar gael ar eich risg chi yn unig
  • peidiwch â mewnosod neu ymgorffori'r gemau mewn gwefannau sydd yn cynnwys deunydd anghyfreithiol neu ddeunydd sy'n cythruddo
  • ni ystyrir mewnosod y gemau ar eich gwefan, fel unrhyw fath o gymeradwyaeth neu sêl bendith gan y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ o'ch gwefan.

Caiff y gemau eu gwneud ar gael ar sail an-ecsgliwsif ac ni fyddwch yn honni fod y gemau ond ar gael ar eich gwefan chi neu fod gennych unrhyw fath o berthynas ecsgliwsif gyda'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ.

Os ydych o'r farn na ddylai'r gemau neu unrhyw gynnwys arall y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ymddangos ar wefan, yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda - cliciwch yma i gysylltu â ni ac fe wnawn ni adolygu'r wefan.

('Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Application' yw ystyr 'Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ' yn y cyd-destun hwn)

Telerau Trwydded Safonol y Gorfforaeth Ddarlledu Prydeinig (y 'Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ') ar gyfer Rhaglen i'w Mewnosod

Trwy fewnosod neu lawrlwytho dyfais chwarae, widget, neu raglen arall sydd â brand y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ arno ("Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ" / "Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Application") ac unrhyw gynnwys testun, sain a/neu fideo a arddangosir o fewn Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ("Cynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ") ar eich gwefan (y "Wefan"), yr ydych yn cytuno i'r telerau a bennir isod.

1. Trwydded

  • 1.1 Yn amodol ar y Telerau Trwydded Safonol hyn, mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn eich trwyddedu ar sail an-ecsgliwsif i arddangos Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ a Chynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ a ddarperir ac a weinir gan y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar eich Gwefan. Ni allwch gopïo nac ail-gyhoeddi unrhyw ffeiliau Cynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ.
  • 1.2 Bydd yr holl hawliau gan gynnwys yr holl hawliau eiddo deallusol yn Nghynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ a Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn parhau'n eiddo'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ.
  • 1.3 Nid yw'r drwydded hon yn cwmpasu ag unrhyw ddefnydd o unrhyw logo y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ neu unrhyw nod masnach arall y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ.

Defnydd o Raglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

2.1 Gallwch fewnosod Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar wefannau sydd heb eu gwahardd gan y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ. Mae'r categorïau o wefannau sydd wedi eu gwahardd wedi eu nodi isod.

Mae gwefannau:

  • sydd yn cam-wahaniaethu yn erbyn unrhyw grŵp cymdeithasol penodol neu sydd fel arall yn cymryd mantais o rannau bregus o gymdeithas
  • sydd yn hyrwyddo, annog neu'n hybu trais
  • sydd yn hyrwyddo, annog neu hybu gweithgaredd anghyfreithiol
  • sydd yn hyrwyddo, annog neu hybu terfysgaeth neu weithgareddau eraill sydd yn bygwth diogelwch y wlad
  • ble y byddai presenoldeb Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar y wefan yn cael ei weld fel rhywbeth oedd yn niweidio enw da'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ am gywirdeb neu ddidueddrwydd
  • nad sydd yn gwbl agored i bob canran o'r cyhoedd
  • sydd yn hyrwyddo'r diwydiant tybaco neu'r diwydiant arfau (gan gynnwys clybiau saethu ac ati)
  • sydd yn annog casineb ar sail hil, crefydd, rhywogaeth, anabledd, oedran neu rywioldeb neu sy'n hyrwyddo, annog neu'n hybu ymddygiad gwrth-gymdeithasol
  • sydd fel arall yn dwyn gwarth ar y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

wedi eu gwahardd.

2.2 Gellir defnyddio Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ a Chynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ at eich dibenion personol an-fasnachol yn unig ac, oni bai bo hynny wedi ei ganiatáu'n ysgrifenedig gan y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ, ni ellir eu defnyddio at ddibenion corfforaethol neu broffesiynol (e.g. mewn blogiau proffesiynol neu fasnachol neu at bwrpasau marchnata) o gwbl. Tra y gellir defnyddio Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar flog neu wefan a ariennir gan hysbysebion, ni allwch godi tâl ar ddefnyddwyr i wylio Cynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ neu fel arall ddefnyddio neu elwa yn fasnachol ar Gynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ mewn unrhyw fodd.

2.3 Ni fyddwch yn caniatáu i hysbysebion gael eu harddangos ar yr un sgrin â Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ble mae yna gysylltiad rhwng yr hysbysebion a Chynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ. Os mai Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ sy'n cynrychioli mwyafrif y cynnwys ar unrhyw dudalen ar y wefan, neu lle na fyddai'r dudalen yn bodoli heb Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ, byddwch yn sicrhau na fydd unrhyw hysbysebion yn ymddangos ar y dudalen honno.

2.4 Ni allwch olygu, newid neu ychwanegu at Gynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ mewn unrhyw fodd, na chyfuno Cynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ag unrhyw ddeunydd arall. Rhaid arddangos y cyfan o Gynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ o fewn Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ. Mae'n rhaid i chi weithredu a chynnal pob cysylltiad rhwng Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ â gwefan y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ.

2.5 Ni allwch awgrymu bod y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ wedi cymeradwyo neu roi ei sêl bendith i'ch Gwefan neu i unrhyw endid, cynnyrch neu gynnwys nad sy'n rhai swyddogol y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ neu unrhyw farn neu safbwyntiau a fynegir ar eich Gwefan. Ni allwch honni nac awgrymu fod gennych berthynas ecsgliwsif gyda'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ neu fel arall fod unrhyw Gynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ond ar gael gennych chi [ar sail ecsgliwsif].

2.6 Ni allwch ddefnyddio Cynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ mewn unrhyw fodd y gall niweidio enw da'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ neu fel arall bery unrhyw golled i'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ.

2.7 Yr ydych yn derbyn a chytuno mai'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ sydd â rheolaeth olygyddol lwyr dros holl Gynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar bob adeg a gall y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ newid neu ddileu unrhyw Gynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar unrhyw adeg fel y dymuna'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ. Yn benodol yr ydych yn derbyn a chytuno y gall y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ gyfyngu ar argaeledd Cynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ fel ei fod ond ar gael i ddefnyddwyr yn y DU yn unig.

2.8 Rhaid defnyddio Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ fel ei darparwyd gan y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ac ni ellir ei newid, ei haddasu neu ei datod a'i dadansoddi mewn unrhyw fodd.

3. Gwarantau ac Atebolrwydd

3.1 Yr ydych yn gwarantu fod eich Gwefan yn cydymffurfio'n llawn â'r holl ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol.

3.2 Gwneir Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ a Chynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar gael ar sail 'fel ag y maent' a 'fel y bônt ar gael' ac nid yw'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn rhoi unrhyw warant o unrhyw fath mewn perthynas â Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ, Cynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ neu unrhyw gynnwys ar wefan y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ. I'r radd eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn eithrio ac yn hepgor pob gwarant a awgrymir gan y gyfraith a/neu bob gwarant stadudol.

3.3 Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ wedi cymryd pob gofal rhesymol i sicrhau nad yw Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ac unrhyw god meddalwedd cysylltiedig yn cynnwys unrhyw gamgymeriadau, feirws neu namau, ond, er hynny, nid yw'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn gwarantu fod hyn yn wir. Yr ydych yn defnyddio Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn ôl eich disgresiwn eich hun ac ar eich risg chi eich hun ac fe'ch cynghorir i gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eich cyfrifiadur rhag cael ei heintio gan feirws.

3.4 I'r radd eithaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn atebol am unrhyw golled neu niwed yr ydych yn dioddef o ganlyniad i, neu sy'n gysylltiedig â'ch defnydd chi o Raglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ neu Gynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ.

3.5 Mae pob un o ddarpariaethau'r Cymal 3 hwn yn gweithredu ar ben ei hun ac yn bodoli a goroesi yn annibynnol o'r lleill.

4. Indemniad

4.1 Os digwydd i drydydd parti gychwyn achos cyfreithiol yn erbyn y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ o ganlyniad i'ch defnydd chi o Raglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn groes i'r Telerau Trwydded Safonol hyn, 'rydych yn cytuno i indemnio'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ mewn perthynas ag unrhyw a phob iawndâl, costau a threuliau, gan gynnwys ffïoedd cyfreithiol a threuliau ymgyfreitha rhesymol, a ddioddefir neu a delir gan y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ o ganlyniad i'r fath achos.

5. Terfynu

5.1 Gall y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ gyfyngu ar, atal dros dro, neu derfynu'r cyfan neu unrhyw ran o Gynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ neu eich hawl i gael defnyddio Rhaglen y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ neu Gynnwys y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ar unrhyw adeg yn ôl disgresiwn llwyr y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ heb unrhyw atebolrwydd.

5.2 Mae Cymalau 3, 4, 5 a 6 yn goroesi terfynu'r Cytundeb hwn.

6. Cyffredinol

6.1 Ni allwch drosglwyddo neu is-drwyddedu unrhyw un o'ch hawliau neu ddyletswyddau o dan y Telerau Trwydded Safonol i unrhyw drydydd parti.

6.2 Dehonglir y Cytundeb hwn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd yn ddarostyngedig i awdurdodaeth ecsgliwsif llysoedd Cymru a Lloegr.

6.3 Ni ystyrir unrhyw fethiant neu oedi ar ran y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ i ymarfer ei hawliau o dan y Telerau Trwydded Safonol hyn fel ildiad o'r hawliau hynny.

Cliciwch yma i ddarllen y telerau hyn yn Saesneg / Click here for Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Embedding terms in English.

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ iD

Llywio drwy’r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ © 2014 Nid yw'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.