Ar brynhawn hanesyddol yn Ffos Las gyda Champion Hurdle Cymru yn cael ei hatgyfodi ar ôl bwlch o naw mlynedd, y ffefryn Oscar Whisky enillodd y brif wobr yn weddol hawdd.
Ceffyl perchennog cwrs Ffos Las, Dai Walters yw Oscar Whisky, farchogwyd gan Barry Geraghty ac sydd yn cael ei hyfforddi gan Nicky Henderson.
Fe fydd Walters a Henderson yn awr yn troi eu golygon at Cheltenham gyda Oscar Whisky yn sicr o gymryd rhan yn y Champion Hurdle fis nesaf.
Ceffyl arall gyda chysylltiadau Cymreig, Black Jack Blues o stabl Rebecca Curtis yn Sir Benfro, orffennodd yn ail.