Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Blwyddyn Darllen 2008
Chwilio am 2,008 o ddigwyddiadau
Nid pawb sy'n cofio mai Blwyddyn Darllen Genedlaethol 1998 - 1999 roddodd fod i Ddiwrnod y Llyfr yng Nghymru.

Bu'r flwyddyn honno o dan arweiniad Rhiannon Lloyd sy'n awr yn bennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn fodd i gynnal pob math o weithgaredd asr hyd a lled Cymru.

Un o brif argymhellion adroddiad ar y flwyddyn honno oedd y dylid parhau i gynnal Diwrnod y Llyfr ac adeiladu ar ei lwyddiant.

Mae'n ddiddorol iawn, felly, mai Diwrnod y Llyfr yw man cychwyn Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2008.

Blwyddyn sydd â'i her ei hun i bobl gynnal 2,008 o weithgareddau ynglŷn â llyfrau.

Pleserau darllen
Fel y Diwrnod ei hun, bydd y Flwyddyn hefyd yn canolbwyntio ar greu partneriaethau a cheisio cyfleu'r neges am bwysigrwydd darllen a'r pleser a geir o lyfrau.

Yn dilyn llwyddiant y Flwyddyn Darllen gyntaf, gofynnodd Llywodraeth y Cynulliad i'r Cyngor Llyfrau gydlynu'r gwaith unwaith yn rhagor. Bu cyfarfodydd yn barod gyda nifer o bartneriaid a chrëwyd dros dro i ddisgwyl gwefan derfynol.

Gwahoddwyd pob awdurdod lleol i enwebu cydlynydd er mwyn sicrhau cydweithio ar draws sectorau addysg a llyfrgell, ac er mwyn tynnu cymaint o gymdeithasau lleol â phosib i mewn i'r gweithgareddau o fewn y siroedd.

Tri chynllun
Hefyd, bydd y Cyngor Llyfrau yn trefnu tri phrif brosiect yn ystod y Flwyddyn:
  • Ymgyrch ddechrau'r haf i annog pobl i roi llyfrau'n anrhegion i'w gilydd.

  • Yn yr hydref bydd ymgyrch Cymunedau'n Darllen a fu'n llwyddiannus mewn dinasoedd yn Lloegr a'r Unol Daleithiau gyda chyfle i gymunedau greu wythnosau o weithgareddau amrywiol yn seiliedig ar lyfrau.

    Gall y rhain gynnwys sesiynau gan awduron, cwisiau tafarn, darlleniadau, cystadlaethau yn y wasg leol, cyfle i bleidleisio dros hoff lyfrau'r gymuned ac yn bwysicach, bydd cyfle i ddarllen y llyfrau a ddaw i'r brig o fewn y gymuned.

    Bydd cyfle hefyd i ardaloedd eraill yng Nghymru gysgodi'r gweithgareddau a rhoi sylw pellach i'r llyfrau hynny a'u hawduron.

  • Ymgyrch ar gyfer plant a phobl ifanc fydd y drydedd gyda gweithgaredd a fydd yn cysylltu â'r byd chwaraeon ond a fydd hefyd yn profi iddynt fod darllen yr un mor cŵl â chwarae phêl-droed neu rygbi!

    Miliwn o eiriau
    Wrth gwrs, bydd cyfle i hybu'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol drwy'r llu o weithgareddau sydd eisoes yn cael eu trefnu gan y sector blynyddoedd cynnar, ysgolion, llyfrgelloedd, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, ac ymgyrchoedd fel Darllenwch Filiwn o Eiriau a drefnir gan Sgiliau Sylfaenol Cymru.

    Bydd y prif wyliau cenedlaethol hefyd yn cynnig cyfle pellach i roi sylw i'r Flwyddyn ac annog Cymru gyfan i ymuno â hi.

    Caiff y Flwyddyn ei lansio'n swyddogol gan Jane Hutt, AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, fore Iau, 13 Mawrth 2008 yn y Senedd.

    Yr her
    Yn ystod y lansiad bydd y Gweinidog yn cyflwyno rhai o'r 8,000 o lyfrau a roddir yn anrhegion i garchardai, ysbytai, cartrefi henoed, canolfannau dydd ac ati. ar draws Cymru.

    Er y bydd y lansiad ei hun yn y brifddinas bydd y llyfrau'n cyrraedd pob rhan o Gymru trwy gydweithrediad 22 o awdurdod llyfrgell.

    Bydd Jane Hutt hefyd yn herio'r genedl i gynnal 2,008 o ddigwyddiadau hybu llyfrau a darllen yn ystod y Flwyddyn . . .

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Diwrnod y Llyfr

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý