Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Diwrnod y Llyfr 2008
E-gardiau, digwyddiadau, miri a hwyl . . . Diwrnod sydd wedi tyfu a thyfu
Bydd pob math o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2008 - ddydd Iau, 6 Chwefror.

Mae hwn yn ddiwrnod sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn ers ei gynnal gyntaf yng Nghymru fel un o weithgareddau Blwyddyn Darllen 1998-99 ac yn cael ei weld gan gyhoeddwyr a hyrwyddwyr fel Cyngor Llyfrau Cymru yn un o ddyddiadau pwysicaf y flwyddyn.

Ail flwyddyn ddarllen
Blwyddyn Darllen 2008 Ac yn 2008 mae Diwrnod y Llyfr hefyd yn ddiwrnod cychwyn yr ail Blwyddyn Darllen a fydd yn cael ei chyhoeddi'n swyddogol gan Jane Hutt - y gweinidog dros addysg, plant, dysgu gydol oes a sgiliau -yn y Cynulliad Cenedlaethol - fore Iau, 13 Mawrth, yn y Senedd.

Yn ystod y blynyddoedd cynnar cymharol ychydig o ddigwyddiadau a drefnwyd a'r rheini gan y Cyngor Llyfrau ond yn sgil llwyddiant y rheini sylweddolwyd y gallai hwn dyfu i fod yn rhywbeth llawer iawn mwy na'r hyn y gallai'r criw bychan o weithwyr y Cyngor ei gynnal eu hunain.

Y canlyniad fu ffurfio partneriaethau ac fe fydd ffrwyth hynny i'w weld yn glir eleni gyda channoedd o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau a'r gweithgareddau hynny yn ymestyn ymhell y tu draw i ffiniau un diwrnod.

Dros y blynyddoedd daeth nifer o is ymgyrchoedd i fodolaeth gan gynnwys yr ymgyrch Gair ar Led gyda'i gardiau post ac e-gardiau lliwgar y gellir eu hanfon o'r wefan hon i argymell a chymeradwyo llyfrau neu rannau profiadau darllen.

Stori Sydyn
Menter arall sy'n ganolog i'r diwrnod erbyn hyn yw'r gyfres Stori Sydyn gyda nifer o deitlau wedi eu cyhoeddi ar gyfer y diwrnod eleni gan gynnwys stori gan un o'n hawduron mwyaf poblogaidd, Caryl Lewis, Jackie Jones

Partneriaeth yw'r gyfres hon gyda Sgiliau Sylfaenol Cymru a nawdd gan y Cynulliad ac yn un y mae'r Cyngor Llyfrau yn amlwg yn rhoi cryn bwys arni fel cyfrwng i ddenu pobl i ddarllen.

Mae'r llyfrau yn fyr ac mewn print bras ac yn rhai nad ydynt yn hawlio llawer o amser y darllenydd.

Ar y cychwyn nofelau byrion neu straeon byr hir oedden nhw ond erbyn hyn mae llyfrau ffeithiol wedi eu cyhoeddi hefyd.

Erbyn hyn cyhoeddwyd 12 cyfrol Gymraeg a 10 o rai Saesneg o Gymru ac yn ôl yr hyrwyddwyr mae "croeso mawr" iddynt a hwythau mor addas ar gyfer oedolion sy'n ceisio gwella eu sgiliau sylfaenol.

Mae iddynt eu hapêl ymhlith dysgwyr hefyd.

Mae adran arbennig ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru gyda gwybodaeth am y rheseidiau o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru,

  • Ymhlith uchelbwyntiau y llynedd yr oedd penderfyniad cwmni Wiltan o Bont-y-pŵl i greu llyfrgell ar gyfer y gweithwyr ar Ddiwrnod y Llyfr.

  • Yn 2008 criw o undebwyr llafur o ardal Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr sydd wedi tanlinellu gwerth y Diwrnod i'w gwaith hwythau. - yn ystod lansiad Stori Sydyn/Quick Reads 2008 gan Scott Quinnell yng nghynhadledd TUC Cymru yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, dywedwyd i nifer o undebwyr gydweithio â llyfrgellwyr ysbytai i drefnu ymgyrch Llamu mewn i'ch Llyfrgell ar gyfer y diwrnod.

  • e-gardiau Diwrnod y Llyfr
  • Blwyddyn darllen 2008
  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Blwyddyn Darllen 2008


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý