Cynhwysiant
Rydych chi’n perthyn yn y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ gan mai chi sy’n berchen ar y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn
Er mwyn sicrhau gwerth i bob cynulleidfa a gwneud yn siŵr bod y cynnwys rydym yn ei greu yn gynhwysol ac yn cynrychioli pob grŵp a chymuned yn y DU, rydym yn adeiladu timau sy’n â’r ystod ehangaf bosib o brofiadau, talent a syniadau. Rydym yn hyrwyddo cynhwysiant er mwyn creu Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ agored sy’n adlewyrchu ac yn dathlu amrywiaeth y cynulleidfaoedd a wasanaethwn.
Cynllun Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Extend
Er bod y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl ar gyfer unrhyw un o'i swyddi a hysbysebir, mae Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Extend yn neilltuo rhai swyddi sydd ar agor yn unig i bobl a ddiffinnir yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (neu Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 yng Ngogledd Iwerddon).
Amrywiaeth economaidd-gymdeithasol
Mae’r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ i bawb ac mae angen i’n cynnwys gynrychioli’r holl gynulleidfaoedd rydym yn eu gwasanaethu. I sicrhau ein bod yn gwneud hyn ac i roi gwerth i’n holl gynulleidfaoedd, rhaid i’n timau gynnwys pobl sydd â chefndiroedd, profiadau a syniadau gwahanol. Ar hyn o bryd, mae 20% o’n gweithlu yn dweud eu bod yn dod o gefndir dosbarth gweithiol. Ein huchelgais yw cynyddu’r gynrychiolaeth honno.
Rhwydweithiau i weithwyr
Ar draws y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ, mae gennym amrywiaeth o rwydweithiau pwrpasol ac arbenigol i weithwyr sy’n dod â phobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol at ei gilydd i rwydweithio, ac i’n helpu i wneud penderfyniadau ar sail mwy o wybodaeth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ein cynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant a’n rhwydweithiau i Weithwyr.
Gallwch hefyd ddarllen mwy am ein rhwydwaith RAISED a sut mae’r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cefnogi amrywiaeth economaidd-gymdeithasol.
-
O Wasanaeth Cyhoeddus y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ i Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Studios, darganfyddwch sut rydym yn creu cynnwys o safon fyd-eang sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
-
Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.
-
Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ. Rhagor o wybodaeth.