Diweddarwyd: 4 Mawrth 2021
Gallwch nawr droi at gynnwys y ĢƵ drwy Amazon Echo a Google ĢƵ. Yn y dyfodol, byddwn yn cefnogi hyd yn oed mwy o ddyfeisiau sy’n cael eu rheoli â llais.
Pa gynnwys gan y ĢƵ sydd ar gael ar Google ĢƵ?
ĢƵ Sounds
Gallwch wrando ar eich hoff orsafoedd radio’r ĢƵ. Dywedwch: "Ok Google, play ĢƵ [gorsaf radio]. Edrychwch ar restr o orsafoedd radio’r ĢƵ.
Newyddion
Gallwch gael ĢƵ News, World Service News a ĢƵ Minute. Dywedwch ‘OK, Google, play the news’.
Ar hyn o bryd, gallwch gael mynediad at gynnwys y ĢƵ are Google ĢƵ heb fewngofnodi.
Pa gynnwys gan y ĢƵ sydd ar gael ar Amazon Echo?
ĢƵ Sounds
Gyda ĢƵ Skill, gallwch wrando ar eich hoff orsafoedd radio’r ĢƵ, a chwarae ein holl gynnwys ar-alw, gan gynnwys rhaglenni, podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. .
Newyddion rhyngweithiol
I gael y newyddion diweddaraf, dywedwch "Give Me ĢƵ News" wrth seinydd clyfar wedi’i hwyluso gan Alexa.
I symud drwy’r straeon hyn: “Alexa, next”.
I gael dadansoddiad manylach o’r stori: "Alexa, more from the ĢƵ".
Flash Briefings
Gyda Flash Briefings, mae , , a i gyd ar gael. Dywedwch ‘Alexa, play my Flash Briefing’.
Os oes gennych chi ddyfais Amazon gyda sgrin, fel Echo Show neu Echo Spot, gallwch gael ĢƵ News Flash Briefing fel fideo yn lle.
Sut alla i gael ĢƵ Skill ar Amazon Alexa?
I alluogi ĢƵ Skill yn awtomatig, dywedwch: “Alexa, open the ĢƵ”. Fel arall, gallwch alluogi a dod o hyd i ĢƵ Skill drwy . Mae’n rhad ac am ddim.
Yna bydd rhaid i chi gysylltu eich cyfrif ĢƵ â’r ddyfais a reolir â llais. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm Gosodiadau ar gyfer ĢƵ Skill yn ap Alexa.
Os nad oes gennych chi gyfrif ĢƵ, gallwch – mae’n hawdd ac yn gyflym i wneud. Maen rhaid i chi fod dros 13 oed i gysylltu cyfrifon â’i gilydd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni’n sicrhau bod eich manylion yn ddiogel, ewch i .
Rhaid gosod eich iaith Alexa i Saesneg (DU) nid Saesneg (UDA) er mwyn i ĢƵ Skill weithio. I gael manylion llawn am osod sgiliau, ewch i dudalen Enable Alexa Skills ar Amazon.
Am fanylion llawn ynglŷn â gosod sgiliau, ewch i dudalen ar Amazon.
Cymorth wrth ddefnyddio ĢƵ Skill
Pan rydych chi’n defnyddio ĢƵ Skill, gallwch reoli eich profiad gwrando gyda chyfarwyddiadau llais. Mae mor syml â hynny.
I’w lansio, dywedwch “Alexa, open the ĢƵ”.
I’ch helpu i ddechrau arni, gofynnir i chi pa orsaf radio, sioe neu bodlediad hoffech chi wrando arni pan fyddwch yn troi at ĢƵ Skill am y tro cyntaf. Neu i fynd yn syth at eich ffefrynnau, dywedwch “Alexa, ask ĢƵ to play [gorsaf radio, sioe neu bodlediad]”.
Problemau wrth chwarae sioeau’r ĢƵ ar ddyfeisiau Amazon Echo
Rydyn ni’n ymwybodol bod rhai cwsmeriaid yn wynebu problemau wrth chware gorsafoedd a sioeau’r ĢƵ tra’n defnyddio dyfeisiau Amazon Echo. Er enghraifft, weithiau nid yw'r orsaf neu'r sioe yn cael ei chanfod, nid yw'n chwarae, neu mae'r ffrwd yn diflannu.
Rydyn ni’n edrych ar hyn gydag Amazon. Yn y cyfamser, dyma bethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw:
- Yn gyntaf, gwiriwch fod gosodiadau iaith Alexa ar gyfer eich dyfais wedi'u gosod i Saesneg (DU). .
- Hefyd, mae'n werth gwirio bod eich dyfais yn defnyddio'r meddalwedd diweddaraf. .
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd gennym unrhyw gyngor pellach.