Main content

Pigion o'r Sioe Fawr 2026

Terwyn Davies, Lois Cernyw a Sara Elan Jones sy'n cyflwyno pigion o sgyrsiau o'r Sioe Fawr. Terwyn Davies, Lois Cernyw and Sara Elan Jones present highlights from the Royal Welsh.

Terwyn Davies, Lois Cernyw a Sara Elan Jones sy'n cyflwyno pigion o sgyrsiau o'r Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Mae Elan yn agoriad pentref defaid newydd Cynefin, gan sgwrsio gydag Alwyn Rees o Gymdeithas y Sioe, a hefyd Alun Evans a Margaret Dalton fu'n agor y pentref.

Yn adran y Ffwr a Phlu, mae Lois yn sgwrsio gyda Phrif Stiward adran y dofednod, Paul Williams, wrth i'r ieir ddychwelyd i'r sioe ar ôl saib oherwydd cyfyngiadau Ffliw Adar.

Cyfle hefyd i glywed am app newydd gan elusen wledig RABI sydd o gymorth wrth ddelio gyda damweiniau ar ffermydd.

Y newyddiadurwraig Nia Thomas sy'n sgwrsio am ei gyrfa, ar ôl cael ei chyflwyno gyda Gwobr Goffa Bob Davies gan Undeb Amaethwyr Cymru.

Terwyn sy'n sgwrsio gyda Nicola Davies, Cadeirydd Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gan hel atgofion gyda hi am y flwyddyn 1996 pan roedd hi'n 'Miss Royal Welsh'.

19 o ddyddiau ar ôl i wrando

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 26 Gorff 2026 15:30

Darllediadau

  • Sul 26 Gorff 2026 07:00
  • Sul 26 Gorff 2026 15:30