Elgan Rhys, prosiect 'Sownd', arddangosfa 'Ffasiwn' a Kayley Roberts
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mi gawn ni argraffiadau y ffotograffydd Betsan Haf Evans o’r arddangosfa 'Ffasiwn' sydd ymlaen yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd ar hyn o bryd.
Mae bardd mis Mehefin Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Cymru, Kayley Roberts yn galw heibio'r stiwdio am sgwrs gyda'i cherddi.
Trafod eu harddangosfa ‘Sownd’ yn yr Instituto Santa Maria della Pietà yn Castello, Fenis mae Manon Awst a Dylan Huw ac fe gawn glywed hefyd sut mae eu gwaith yn treiddio i gymunedau ar hyd a lled Cymru yn sgil y cyflwyniad creadigol yma.
Ac mae Elgan Rhys yn rhannu ei brofiadau cyn lansio ei ail nofel 'Plesera'.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Sul 21 Meh 2026 13:00Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Cymru
- Llun 22 Meh 2026 18:00Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Cymru