Main content
09/12/2019
Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt, yn cynnwys adolygiadau o nofelau newydd gan Gwen Parrott a Siôn Hughes. A look at the arts in Wales and beyond.
Eleni mae Theatr Arad Goch yn dathlu deg mlynedd ar hugain, ac mae Nia Roberts yn cael cwmni’r cyfarwyddwr artistig Jeremy Turner er mwyn edrych nôl ar hanes y cwmni.
Mae Catrin Beard yn cael cwmni Dorian Morgan a Siân Teifi er mwyn adolygu dwy nofel newydd sbon, sef “Y Pumed Drws” gan Siôn Hughes a “Gwawr Goch ar y Gorwel” gan Gwen Parrot.
Ac mae'r pianydd Siwan Rhys yn sgwrsio efo Nia am ei chyfraniad i Ŵyl Gerddoriaeth Gyfoes Llundain a’i llwyddiant diweddar efo CD o gerddoriaeth Stockhausen.
Darllediad diwethaf
Llun 9 Rhag 2019
18:00
ĢƵ Radio Cymru & ĢƵ Radio Cymru 2
Darllediad
- Llun 9 Rhag 2019 18:00ĢƵ Radio Cymru & ĢƵ Radio Cymru 2