Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ CymruMosgito, Joio

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Contact Us

Betsan a Twm y ci

Aelwyd yr Urdd

Rwy'n aelod o Aelwyd yr Urdd, Crymych. Wnes i ymuno pan yn 11 oed.

Byddaf yn aelod o'r Aelwyd tan fy mod i'n 25.

Mae nifer o'm ffrindiau yn aelodau, ac mae'r Aelwyd yn gyfle i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.

Byddwn yn cwrdd bob nos Iau o 7yh i 9yh yn ystod tymor yr ysgol.

Mae pob math o weithgareddau yn cael eu cynnal. Rydym weithiau yn mynd i fowlio deg, sgïo yn Llangrannog neu mynd i siopa yng Nghaerdydd. Weithiau byddwn yn mynd i weld Cymru yn chwarae pêl-droed neu rygbi.

  • Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae 50,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn aelodau o'r Urdd.
  • Enwau cyfarwydd a fu gynt yn aelodau o'r Urdd yw Huw Edwards, y darllenydd newyddion, Bryn Terfel, y canwr byd enwog, a Glyn Wise o'r gyfres Big Brother
  • Mae gan y mudiad 10,000 o wirfoddolwyr sy'n weithgar dros ben mewn 900 o ganghennau ledled y wlad.

Ehangu gorwelion Rwy'n cystadlu llawer yn eisteddfodau'r Aelwyd. Rwy'n canu yn y Côr Merched, y Côr Cymysg, a'r Parti Llefaru. Rwyf hefyd wedi cystadlu yn y chwarter awr o adloniant a chystadlaethau chwaraeon.

Y peth gorau am fod yn yr Aelwyd yw cael y siawns i wneud rhywbeth gwahanol. Mae wedi rhoi hyder i fi berfformio ar y llwyfan. Hefyd, Mae mae wedi ehangu fy ngorwelion. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i deithio i Ganada, Patagonia, Estonia, y Ffindir a Rwsia gyda'r Aelwyd.

Fy nghyngor i fyddai i ymuno! Mae'r Aelwyd yn lle i wneud ffrindiau newydd yn gyflym iawn, a chymdeithasu â gwahanol bobol. Hefyd mae'n le mae dim ond Cymraeg sy'n cael ei siarad, sy'n grêt!

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý