Roc a Rôl yn Cyrraedd Cymru
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Ymateb gwyllt pobl ifanc Cymru i ddyfodiad roc a rôl yn y 1950au.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+
Pwnc : Hanes
Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain fodern, Byd modern, Byd yr ugeinfed ganrif
Allweddeiriau : Datblygiad Cymru 1900-2000, Roc a Rôl, Cerddoriaeth pop, Miwsig pop Saesneg, Elvis Presley, Bill Haley, Radio Luxembourg, Diwylliant poblogaidd, Jeifio, Diwylliant ieuenctid
Nodiadau :
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw.
TGAU: Byd yr ugeinfed ganrif. Datblygiad Cymru 1900-2000. Hanes cerddoriaeth yng Nghymru.
Safon Uwch: Agweddau ar hanes Ewrop 1880-1980. Hanes diwylliant ieuenctid yng Nghymru.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Disgrifio ymateb pobl ifanc yn eu harddegau. Defnyddio'r clip i nodi'r rhesymau pam y byddai rhieni wedi gwrthwynebu'r diwylliant poblogaidd newydd. Sbarduno ymholiad pellach i ddatblygiad diwylliant poblogaidd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ystyried sut y dylanwadodd datblygiadau technolegol ar ddiwylliant poblogaidd yn ystod yr ugeinfed ganrif.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am ddiwylliant poblogaidd pobl ifanc yn eu harddegau a datblygiad cerddoriaeth boblogaidd. Datblygu geirfa/iaith.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfywyr yn gallu: 1) Deall fod datblygiad roc a rôl wedi cael effaith ar fywyd pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru. 2) Deall fod gan rai pobl agweddau negyddol tuag at dwf cerddoriaeth boblogaidd.
Mwy
Cysylltiadau'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.


