Dadgomisiynu'r Atomfa Daeth oes gorsaf niwclear Trawsfynydd i ben yn 1993. Ers hynny, mae'r safle wedi bod yn mynd drwy'r broses ddadgomisiynu sy'n golygu delio efo'r gwastraff ymbelydrol sydd wedi ymgasglu yno ar ôl 25 mlynedd
o gynhyrchu trydan.
Bwriedir gohirio'r gwaith dadgomisiynu ar y ddau adweithydd tan ddiwedd y ganrif a storio'r gwastraff ymbelydrol ar y safle mewn adeiladau pwrpasol.
Bu rhai o staff yr orsaf yn dweud wrth raglen Manylu ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Cymru beth sy'n digwydd mewn gorsaf niwclear ar ôl i'r cynhyrchu ddod i ben ...
Jon Heath: "Am fod Traws ar lan llyn da ni wedi cynhyrchu mwy o resin na safleoedd ar ochr y môr. Am bod lefel yr ymbelydredd oedd i gael ei rhyddhau i'r amgylchedd yn is nag i'r môr, mae gynnon ni fwy o resin a rhaglen hirach na safloedd eraill. Mae dros 100 metr ciwbic a 900 o ddrymiau o bob un o'r dair vault felly fe fydd 2000 o bacedi o wast."
Josh Rose safle we ardderchog
Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.