Y Frân Goesgoch Mae'r gwegamera yma yn weithredol rhwng canol Ebrill tan ddechrau Gorffennaf, cyfnod brîdio'r adar, felly nid oes llun ar hyn o bryd.
Daw'r gwegamera yma gan RSPB cymru sydd wedi lawnsio prosiect Tydi Adar Yn Wych! yng Ngheudyllau Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog.
Rhwng canol Ebrill tan ddechrau Gorffenaf, gallwch fynd ar y trên tanddaearol yn Llechwedd i weld y brain yn nythu.
Brain coesgoch ydy'r aelodau prinaf o deulu'r frân ac mae ganddynt gôt o blu du a choesau a phig coch llachar.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ymweld neu wirfoddoli gyda'r prosiect hwn, cysylltwch â Becky Clews ar (01492) 562163 neu ebostiwch becky.clews@rspb.org.uk.
Ìý Ìý
Dyw'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol