Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Faenol

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru
Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Faenol
Bryn Terfel yng nghynhadledd y Faenol 2007 Y Faenol yn tyfu?
Mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn gŵyl y Faenol i ddau benwythnos erbyn ei dengmlwyddiant yn 2010 yn ôl Bryn Terfel, gyda chyfres o gyngherddau ychwanegol gan artistiaid ifanc wedi eu trefnu yn 2007.
Mewn cyfweliad gyda Lleol, dywedodd Bryn Terfel mai'r gobaith yn 2010 ydy cynnal dau benwythnos o gyngherddau gyda digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn yr wythnos rhwng y ddau benwythnos i greu rhywfath o ŵyl ymylol.

Dywedodd hefyd bod y trefnwyr yn gwneud eu gorau i ddenu 'enw mawr' i ŵyl y dengmlwyddiant: yn y gorffennol mae wedi dweud bod Elton John a Tom Jones ar ei restr ddelfrydol bersonol:

Eisoes cyflwynwyd cyfres o gyngherddau 'ymylol' ychwanegol gan artistiaid ifanc yng ngŵyl 2007 yn yr Ysgubor Fawr, sef hen sgubor sydd wedi ei hadnewyddu ar stâd y Faenol:

Cafodd y cyngherddau yma eu cynnal yn y prynhawn ac mewn awyrgylch mwy anffurfiol na'r prif gyngherddau. Ymysg perfformwyr 2007 roedd yr offerynnwr taro ifanc o Gymru, Dewi Ellis Jones, y pianydd clasurol Benjamin Grosvenor a enillodd Rownd Derfynol yr Allweddellau yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ 2004 ac sydd wedi arwyddo cytundeb datblygu arloesol gydag EMI; y soprano o'r Iwerddon, Ailish Tynan, Rhys Taylor y clarinetydd a enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2006 a rhai o ddisgyblion canolfan gerdd William Mathias, Caernarfon.



Cerddoriaeth
Radio Cymru
Gwyliau
Eisteddfodau


About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý