Opera Cil y Cwm
Ar Fawrth 1af, 2005 perfformiwyd opera newydd i blant "Y Barcud Coch" ym mhentref Cil y Cwm. Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru oedd wedi comisiynu'r gwaith, a bu disgyblion ysgolion cynradd Cil y Cwm a Chapel Cynfab yn perfformio ochr yn ochr ag aelodau o'r Cwmni Opera.
O dan bob llun, gweler sylwadau rhai o'r disgyblion ifanc fu'n rhan o'r opera.
Cliciwch yma i ddarllen am gyfraniad y bardd Gwyneth Lewis i'r prosiect.
Cynhaliwyd yr opera mewn pabell fawr arbennig ar feysydd chwarae Cil y Cwm, gyferbyn a'r ysgol gynradd.
Ben o Ysgol Capel Cynfab. "Fi'n lico canu a fi'n lico'r action. Mae Hannah (cyfarwyddwr yr opera) yn gweud wrtho ni be i neud a lle i symud - ma hi'n grêt."