I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Bu'r Prifardd Ifor ap Glyn yn sôn am batrwm ei Sul arferol, ei fagwraeth yn Llundain ac wedyn ac am ei gyfnod yn Fardd Plant Cymru ar Raglen Dewi Llwyd ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Radio Cymru fore Sul, Hydref 25, 2009.
Pedwerydd allan o dri!
Bu'n sôn hefyd sut y bu iddo ddechrau barddoni - gydag englyn anfuddugol!
"Mi wnes i gymryd yn fy mhen flynyddoedd lawer yn ôl fy mod am drio ar yr englyn yn Eisteddfod y Cymdeithasau yn Llundain.
"Doedd gen i mo'r syniad cyntaf sut i sgrifennu englyn ond mi ges i ryw lyfr o rhywle oedd yn esbonio'r rheolau a dyma fi'n mynd ati i sgwennu yr hyn oeddwn i'n tybio oedd yng englyn.
"Dwi'n meddwl imi ddod yn bedwerydd allan o dri! Ond gyda'r caveat eisteddfodol o Dalied ati."
Am ei gyfnod yn fardd plant Cymru dywedodd bod y cyfan "yn fymryn o embaras" i'w blant ei hun!
Mynychu'r capel
Wedi ei fagu yn Llundain byddai'n mynychu'r capel yno yn blentyn ond bu cyfnod wedyn o gilio ond mae'n awr wedi ailafael.
"Rhyw awydd i chwilio am rywbeth ydi o - fuaswn i ddim yn dweud fod gen i sicrwydd ffydd mawr na dim byd fel'na ond dwi'n teimlo mai dyna ydi'r ffordd i drio ymgyrraedd at y nod a dwi wedi bod yn mynd yn reit rheolaidd y blynyddoedd diwethaf.," meddai wrth Dewi Llwyd.
Wrth gymharu ei fagwraeth yn Llundain a magwraeth ei blant ei hun yng Nghaernarfon dywedodd:
"Mae rhywun yn creu ei Gymru lle bynnag mae rhywun."
Pwysigrwydd hanes
Bu'n sôn hefyd am ei waith yn gynhyrchydd a chyflwynydd teledu ac am y rhaglenni.
Gyda'i ddiddordeb arbennig mewn hanes dywedodd:
"Mae'n bwysig i ddweud y straeon yma. Dyda ni ddim yn cael gweld ein hunain dwi'n teimlo yn ddigon aml ar y cyfryngau. Y tu hwnt i Radio Cymru, y tu hwnt i S4C yr yda ni'n brin o gyfryngau yng Nghymru.
"Ychydig iawn o bobl sy'n darllen papur newydd yng Nghymru sy'n darllen papur newydd wedi ei gynhyrchu yng Nghymru ac fel da ni'n gwybod mae'r sylw mae papurau Llundain yn ei roi i Gymru yn fach iawn," meddai a hynny'n arwain at bobl yn ffurfio barn am eu gwlad eu hunain "mewn mymryn o faciwm".
Gwlad ddiffygiol
Ac wrth sôn am yr hyn sy'n ei wylltio am y Gymru sydd ohoni cwynodd:
"Nad oes yna fwy o bethau i adlewyrchu sut fath o bobl ydan ni . . . da ni'n wlad ddiffygiol iawn yn hynny o beth [yn] ein diwylliant print ni ac ar y teledu ac yn y blaen.
"Ac mae hyn efo sgileffeithiau mewn pob math o gyfeiriadau gwahanol wrth bwyso a mesur ein diwylliant ni. Mae'n anodd iawn cael adolygiad o unrhyw beth achos ychydig iawn o lefydd sydd yna sydd yn adolygu yn Gymraeg . . .
"Mae'n rhaid i rywun weld ei hun mewn drych. Os wyt ti'n dibynnu ar rywun arall i ddweud wrtha ti sut wyt ti'n edrych wel falle nad ydyn nhw'n rhoi darlun cywir iti ac mae yna ormod o hynny'n digwydd yng Nghymru," meddai.
Yn fwy calonogol dywedodd fod pethau syml fel y Gymraeg yn parhau mewn ardaloedd fel Caernarfon a lleoedd tebyg a chlywed ei blant ei hun yn chwarae'n naturiol yn y Gymraeg yn rhoi gwefr iddo.
"Mae clywed plant yn siarad Cymraeg . . . a gwneud hynny nid am fod rhywun wedi dweud wrthyn nhw neu am eu bod yn gorfod gwneud oherwydd ei fod yn bwnc yn yr ysgol . . . jyst clywed y peth yn gwbl naturiol," meddai.


