Chwaraeon±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Abertawe Caerdydd Casnewydd Wrecsam Uwchgynghrair Cymru ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol Rhyngwladol Rygbi Rhyngwladol Rhanbarthol Athletau Beicio Bocsio Criced Cyffredinol Golff Moduro Olympaidd Rasio Ceffylau Rygbi XIII Snwcer Tenis Canlyniadau
Wedi iddo sicrhau medal efydd gyda Gruffudd Morgan yn y parau, enillodd David Phelps aur yn y gystadleuaeth Reiffl 50m ar Orwedd.
Phelps enillodd trydedd medal aur Cymru, gyda Mike Babb o Loegr yn ail.
Yng nghystadleuaeth y merched enillodd Johanne Brekke y fedal efydd gyda Sheena Sharp o'r Alban yn sicrhau ei hail fedal aur o'r Gemau.
"Yr wyf yn hapus iawn gyda fy mherfformiad," meddai Brekke.
"Roedd yr amodau yn ddigon anodd gyda'r gwynt yn anodd ei feistroli.
"Mae hi wedi bod yn ddiwrnod gwych i saethwyr Cymru - diwrnod anhygoel."