Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwyddoniadur - holi golygydd
'Zoncked' wrth eni'r trydydd plentyn!


"Rhywbeth sydd ddim yn mynd i gymryd deng mlynedd, gobeithio," oedd ymateb Menna Baines pan ofynnodd Dei Tomos iddi beth fydd ei phrosiect nesaf yn awr bod y gwyddoniadur wedi ei gwblhau.


  • Bu Menna Baines yn gweithio ar y Gwyddoniadur o'r cychwyn cyntaf un yn un o'r golygyddion gwreiddiol yn cydfweithio â Nigel Jenkins a fu'n golygu'r fersiwn Saesneg.

    Llafur cariad
    Dywedodd mai blwyddyn a hanner io waith - yn gweithio'n rhan amser dros dair blynedd - oedd y gwaith i fod i ddechrau ond ymestynnodd y gwaith yn ddeng mlynedd; llawer ohono yn lafur cariad erbyn y diwedd. A hynny mewn mwy nag un ystyr yn ei hachos hi gan i'w chymar, Peredur Lynch o Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor, ymuno â hi yn y gwaith o olygu.

    Yn cael ei holi gan Gwilym Owen ar ei raglen radio bnawn Llun 28 Ionawr 2008 dywedodd Menna Baines mai'r gair Saesneg "zoncked" a ddefnyddiwyd gan olygydd cyyfredinol y gyfrol, y Dr John Davies, oedd yn cyfleu orau gyflwr y golygyddion ar drothwy'r cyhoeddi.
    "Ond yn hapus iawn," ychwanegodd.

    Dros filiwn a hanner
    Ynglŷn â'r paratoi dywedodd wrth Gwilym Owen:

    "Roedd yna gynllunio i'w wneud, mi gymerodd hynny rhyw flwyddyn neu ddwy. Comisiynu wedyn 400 o gyfranwyr. Rhoi trefn ar y peth ac wedyn ar y diwedd y gwaith diweddaru a sicrhau bod y gyfrol mor gyfredol â phosibl wrth fynd i'r wasg," meddai.

    "Pan ydw i'n meddwl am y gwahanol gamau yn y gwaith dydw i ddim yn synnu ei fod o'n teimlo'n amser hir . . . yn gweithio ar ddwy gyfrol ochr yn ochr, y gyfrol Saesneg a'r gyfrol Gymraeg, a rhwng y ddwy yn dros filiwn a hanner o eiriau . . ." meddai.

    Un peth â'i synnodd meddai yw bod mwy o eiriau yn y gyfrol Gymraeg na'r un Saesneg.

    "Mae hynny'n ddiddorol. Dydw i ddim yn gwybod beth ydi'r rheswm achos dwi wastad wedi meddwl fod y Gymraeg yn medru bod yn iaith ddigon cryno.

    "Ond mae yna elfen o gyfieithu wedi digwydd, er nad ydi'r gyfrol i gyd wedi ei chyfieithu o'r Saesneg ac rydw i'n meddwl bod rhyw elfen o chwyddo yn digwydd gyda phob cyfieithu ac er ein hymdrechion i gael gwared ag olion cyfieithu fel ei bod yn darllen yn safonol mewn Cymraeg cyhyrog mae'n anochel ar y diwedd fod y gyfrol Gymraeg rywfaint yn fwy na'r un Saesneg," meddai.

    "Ond yr un deunydd sydd yn y ddwy," ychwanegodd.

    Dywedodd i "gnewyllyn da" o'r cyfranwyr sgrifennu yn y ddwy iaith ond y mwyafrif yn y Saesneg yn unig.

    Mater o ddewis
    "Wrth gwrs roeddem ni eisiau mynd ar ôl pob math o feysydd, yn wyddoniaeth, yn chwaraeon ac ati a doedd dim modd cael siaradwr Cymraeg ar bob un o'r meysydd," eglurodd.

    Y golygyddion benderfynodd ar y penawdau i'w trin.
    "Roedd yna benderfyniadau mawr ar y dechrau. Ni'n pedwar oedd yn penderfynu beth oedd yn deilwng o'i drafod, pa Gymry oedd wedi gwneud cyfraniad digon pwysig i fod yn y llyfr ac roeddem ni'n trafod oeddem ni'n cynnwys pobl [sy'n dal yn] fyw a phenderfynu nad oeddem ni yn rhoi cofnodion [iddyn nhw] . . . ond yn eu cynnwys nhw drwy'r drws cefn mewn gwirionedd - pob math o benderfyniadau tebyg i hynny," meddai.

    Tipyn o bŵer
    "Roeddech chi'n teimlo bod gennych chi dipyn o bŵer yn eich dwylo mewn gwirionedd eich bod chi'n cael cyflwyno eich darlun eich hun o Gymru," yhwanegodd.

    Dywedodd mai dim ond "ambell waith" y bu yna ffraeo ymhlith y golygyddion.

    "Dydi'r Dr John Davies ddim yn arbennig o hoff o chwaraeon a rhai eraill ohonom ni yn teimlo bod rygbi a phêl-droed yn hanfodion Cymreig. Doedd yna ddim ffraeo[mewn gwirionedd] dadlau cyfeillgar oedd o a dwi'n gobeithio fod y llyfr gorffenedig yn gyfaddawd rhwng y pedwar ohonom," meddai.

    Trydydd plentyn
    Mewn cyfweliad cynharach gyda Dei Tomos ar gyfer ei raglen radio nos Sul 6 Ionawr 2008 disgrifiodd Menna Baines y Gwyddoniadur fel "trydydd plentyn i mi a Pheredur" gan ychwanegu y bydd yn falch yn awr o fedru rhoi mwy o sylw i'r ddau arall!

    Dywedodd hefyd iddi fwynhau cwmniaeth y golygyddion eraill yn ystod y gwaith paratoi. "Yr oedd," meddai, "yn dim clos."

    Golwg ar Gymru
    Ychwanegodd i'r gwaith fod yn fodd iddi gael golwg ar Gymru yn ei holl chyflawnder:
    "Dyna'r peth mawr mae wedi'i roi - rhoi mwy o berspectif a [dangos] lle mae mae pethau yn perthyn i'w gilydd - a rhoi darlun cyflawn [o Gymru].

    "Nid fy mod i'n cofio'r cwbl yn y 700,000 o eiriau!" meddai.

  • Cyn ymuno â thîm y Gwyddoniadur bu Menna Baines yn olygydd celfyddydau Golwg ac yn olygydd Barn rhwng 1991 a 1996. Hi hefyd yw awdur cyfrol bwysig yn dadansoddi gwaith Caradog Prichard, Yng Ngolau'r Lleuad .
  • ar Wefan y Gwyddoniadur.
    (Nid yw'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau eraill.)

  • Cysylltiadau Perthnasol

  • Rhagor am y Gwyddoniadur ar Llais Llên

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý