Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tu Chwith 27
Lempan i'r snobs llenyddol

  • Adolygiad Llinos Dafydd o'r cylchgrawn Tu Chwith. Rhifyn 27: Newid. £5.00.
  • Cerddi, straeon a lluniau.
    Dyma gyfrol sy'n fwrlwm o gampweithiau creadigol gan awduron hen ac ifanc - y dwys a'r digri.

    Un peth wnaeth fy nharo i o'r dechrau oedd gwahanol ddehongliad yr awduron o'r thema 'Newid'.

  • Cyfres o luniau gan awdur Llyfr y Flwyddyn, Llwyd Owen, o ddau fis cyntaf ei fabi, Elian Sgarlad, yn y byd.
  • Cyflwyniad ar y gwahaniaethau gwerinol rhwng Caradog Evans a D.J. Williams ac addasiad o gerdd Rikardo Arregi, Promisies on the Phone, gan Mari Siôn.

    Hen ac ifanc
    Yn ogystal â 'hen lawiau fel Gwyn Thomas a'r to ifanc profiadol fel Eurig Salisbury mae'n neis gweld yn eu plith gywion newydd - hyd y gwn i - fel Cadi Elis a Rose Hedley.

    Dyma rifyn 27 ac o'r hyn a welais i o'r rhai cynnar mae Tu Chwith gam ymlaen erbyn hyn ac yn cael ei gydnabod fel cylchgrawn sydd a mwy iddo na gosip selebs a straeon dros ben llestri.

    Nid yw'n edrych fel cylchgrawn a rhwng y ddau glawr, ceir darnau gwyrthiol, godidog a gwerth chweil. Tair 'G' sy'n taro deuddeg ym mron pob un darn yn y gyfrol.

    Mae'r canwr gyfansoddwr Mr Huw yn sôn amdano'i hun yn chwilio am ei hoff far o siocled yn 1990, a thorri ei galon.
    "Ro'n i mewn penbleth. Doedden i ddim yn gallu prynu Marathon rhagor. Ro'n i'n gorfod prynu Snickers."

    Lawr eu trwynau
    Ond y pwt rwyf i wedi dotio fwyaf ato yw darn Barry Thomas ar dreulio penwythnos yn NhÅ· Newydd, Llanystumdwy, ar gwrs sgriptio.

    Wna i ddim dyfynnu yn y fan hon oherwydd yr iaith goch a rhegfeydd ond fel un sydd yn nabod Barry mae'r darn yn cyfleu ei agwedd i'r dim wrth iddo sathru ar y snobs Cymraeg; "Crachach afiach, yn sbïo lawr 'u trwyna' pan ddudish i bo fi heb ddarllen dim byd gan Alan Llwyd. Pam fyswn i?"

    Dw i jyst yn aros i'w weld e mewn tafarn eto'n fuan gyda'i gitâr yn canu caneuon budron.

    Rhaid dweud imi fwynhau gwledda ar y tameidiau yn y gyfrol hon gan fwynhau rhai yn fwy na'i gilydd wrth gwrs ond rwy'n codi fy het i bawb sydd wedi cyfrannu a'i wneud yn rhifyn.
    Ymlaen at y nesaf.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý