Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar y Lein Eto
Hiwmor a thaith i begwn byd
  • Adolygiad Gwenllïan Rowlinson o Ar y Lein Eto gan Bethan Gwanas. Gwasg Gwynedd. £7.95. Clawr meddal. 175tt. ISBN 0 8074 2350


  • Anrheg Nadolig gan fy mrawd oedd y llyfr yma ac o'r cychwyn cyntaf roeddwn yn edrych ymlaen at ei ddarllen gan imi fwynhau y gyfrol flaenorol, Ar y Lein, gan yr un awdur.

    Clawr y llyfr A hithau'n dilyn llinell hydred rhennir y llyfr fel hyn: Ewrop (Cymru, Cernyw a Llydaw), yr Affrig, Mali, Yr Antarctig, Seland Newydd, Ffiji, Pegwn y Gogledd, Ynysoedd y Ffaroe ac Ewrop a'r Alban.

    Dan Ewrop, ar ddechrau'r llyfr, cawn hanes yr awdures yn cael gwres syrffio yng Nghernyw a'r wefr o fod yn gallu syrffio ychydig.
    Meddai: "Chyffd. Does ganddoch chi'm syniad."

    Mae hiwmor yma hefyd wrth iddi ddweud bod ganddi ben-glin giami ac yn hoff iawn o Sbaen gan gael gwers Fflamenco yno.

    Ceir disgrifiad difyr yn yr adran Antarctig am y dillad isaf i'w gwisgo yno a'r disgwyl cyn gallu mynd yno. Dywed, "Y ffaith ein bod more bell o bob man."

    Yn yr adran am Seland Newydd cawn flas ar draddodiad y Maori a hithau wrth ei bodd yno. Ceir disgrifiad o'r dŵr yn Ffiji ac o'i hoffter hi o'r bobl.

    Yn yr adran ar Begwn y Gogledd dywed yn ffraeth; "Does 'na affliw o ddim byd yno, wrth gwrs, dim ond rhew."

    Cryfder y llyfr yn fy marn i yw'r disgrifiadau lliwgar o bobl a gwledydd a welodd ar ei thaith.

    Mae Bethan Gwanas â'r ddawn anhygoel o allu creu portreadau o gymeriadau a welodd drwy'r byd.

    Gall eu disgrifio yn gryno ac yn effeithiol a chredaf fod hyn yn rhinwedd yn y llyfr.

    Mae'r arddull yn agos atoch ac yn eich annog i ddarllen ymlaen a'r ffaith ei fod ar ffurf dyddiadur yn hwyluso'r darllen ac yn cadw trefn ar y digwyddiadau.

    Fel un a wyliodd y gyfres deledu gallaf yn awr gofio'r daith trwy ddarllen y llyfr a'r ddau yn atgyfnerthu'i gilydd.

    Mae'r lluniau lliw yn ardderchog a digon ohonyn nhw a'r clawr hefyd wedi ei gynllunio'n gelfydd gan Tanwen Haf.

    Llyfr i'w fwynhau a ninnau'n teithio'r byd heb symud o'n cadair freichiau!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý