Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Gemydd
Croeso i nofel newydd Caryl Lewis
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Y Gemydd gan Caryl Lewis. Lolfa. £7.95.

    Mae'n rhaid bod pob copa walltog sy'n mwynhau darllen yn y Gymraeg wedi clywed am Caryl Lewis a hithau'n un o'r prif awduron cyfoes ar gyfer pobl ifanc.

    Eisoes darparodd straeon dirdynnol fel Martha, Jac a Sianco a Dal Hi!.

    Clawr y llyfr Y ddiweddaraf o'i llyfrau y cefais y pleser o'i darllen yw ei nofel newydd, Y Gemydd ac unwaith eto mae'n stori sy'n gafael mewn modd brawychus.

    Stori yw am gymeriadau brith sy'n byw ar gyrion cymdeithas a'r prif gymeriad, Mair, yn crafu byw trwy drin a gwerthu gemau a chlirio tai - nes y daw ar draws gem sy'n trawsnewid ei bywyd yn llwyr.

    Nid oes plot cymhleth, cymeriadau bythgofiadwy na darluniau anhygoel yn perthyn i'r Gemydd. Yn wir, mae'n eithaf syml.

    Ond y mae hefyd yn nofel glyfar tu hwnt yn uniaethu â threialon bywyd bob dydd.

    Mae'n nofel sy'n siarad gyda'r mwyafrif ohonom nad ydym yn byw bywyd swreal, llawn cyffro.

    Bod yn gredadwy
    Gwendid llawer o awduron yw eu bod yn creu straeon sy'n llawn digwyddiadau sy'n chwyldroi bywydau a'u newid o un eithaf i'r llall.

    Mae'r digwyddiadau y cyfeiriaf atynt yn rhoi plot penigamp ond maent hefyd yn tanseilio'r hyn sy'n gredadwy. Mae Y Gemydd, fodd bynnag, yn wahanol.

    Mae hon hefyd yn nofel rymus llawn symbolaeth ac yn gweithio ar sawl lefel.

    Mae gan Caryl Lewis ddawn arbennig i greu cymeriadau dwys, diddorol, a'u gosod mewn lleoliad credadwy.

    Ochr yn ochr â'i dawn dweud mae'r defnydd o dafodiaith Ceredigion. Mae hynny a'r holl waith ymchwil sy'n mynd i mewn i'w gwaith yn cynnig nofel aeddfed, grefftus i unrhyw ddarllenwr ei mwynhau.

    Ond wedi darllen Y Gemydd mae'n rhaid imi gyfaddef nad dyma fy hoff lyfr gan Caryl Lewis.

    Ni chefais fy swyno gymaint ganddi â gweithiau fel Martha, Jac a Sianco er enghraifft.

    Ni theimlaf fod yr un swyn rhwng cloriau hon ag oedd yn ei nofelau cyntaf.

    Ond wedi dweud hynny 'roedd y prif gymeriad, Mair, yn dangos elfennau dirdynnol o gynildeb a dwyster nas gwelwyd o'r blaen ac rwy'n argymell Y Gemydd a'ch hannog i'w ddarllen.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
  • Gweler Gwales :
    "Nofel sy'n cyfleu unigrwydd dirdynnol gyda phortreadau grymus o gymeriadau sy'n gweithio mewn marchnad sydd ar fin cau. Dilynir argyfwng Mair, sy'n gwneud bywoliaeth o drin gemau a chlirio tai, nes y daw un gem i drawsnewid ei bywyd yn llwyr..."

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Holi Caryl Lewis


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý