Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Crap ar farddoni
Pump o fuddugwyr yr Urdd

  • Adolygiad Huw Alun Foulkes o'r gyfrol Crap ar Farddonigan Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys a Hywel Griffiths. Gwasg Carreg Gwalch. £5.
  • Yn ddiweddar bum yn darllen mwy o farddoniaeth. Cyfuniad o reidrwydd a diddordeb .

    Ond rhaid cyfaddef mai mater o ddiddordeb yn unig oedd dewis darllen y gyfrol Crap ar Farddoni.

    Wedi ennill
    Mae'r pum cyfrannwr wedi ennill un o brif wobrau llenyddol Eisteddfod yr Urdd ac yn gyfarwydd mewn stompiau llenyddol ar hyd a lled y wlad.

    Nid yw'r broliant ar gefn y gyfrol yn ffafriol nac ychwaith yn ymffrostio yn nhalentau'r pump gydag ambell i ddyfyniad gan feirniaid llenyddol yn lambastio ambell i gerdd yn y casgliad.

    " Mae'r gerdd yn amddifad o deimlad ac ni chefais ynddi unrhyw wefr," meddai gerallt Lloyd Owen am un gerdd!

    Mae'r sylwadau hyn yn ychwanegu at ddiben y gyfrol sy'n gyfuniad o'r dwys a'r doniol, y gwleidyddol a'r diwylliannol - amrywiaeth sy'n cynnal diddordeb er nad yw pob cerdd yn taro deuddeg.

    To newydd
    Braf yw gweld cyfrol fel hon yn cael ei chyhoeddi gan fod y pump yn cynrychioli'r to newydd o feirdd a braf yw gweld ganddynt gerddi o bob math - o ran strwythur, cynnwys ac arddull a phob un, i ryw raddau, a'i lais ei hun.

    Yr hyn sydd fwyaf amlwg, fodd bynnag, yw'r ffaith fod yr wefr mae'r pump yn ei gael wrth ysgrifennu yn dod drosodd yn effeithiol a hynny'n ychwanegu at fwynhâd y darllenydd.

    Mae nifer o gerddi yn aros yn y cof a'r rheini gan amlaf yn dod â gwên i'r wyneb.

    Cerdd rydd gan Eurig Salisbury yn cyfarch un o gyfranwyr eraill y gyfrol, Hywel Griffiths ar ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd, er enghraifft.

    Eironi'r sefyllfa yw mai Eurig ddysgodd Hywel sut i feistroli'r gynghanedd. Yn sicr, mae hiwmor a phersonoliaeth y bardd yn amlwg,

    'Yn ddi-dâl fe ofalais
    Am ei glec a magu'i lais,
    A mynych edrych ar ôl
    Ei wawdodyn yn dadol.
    Eto'n athro'n ei feithrin
    A chodi'i wynt, sychu'i din.

    Barn wleidyddol
    Ymhlith y nifer o uchelbwyntiau eraill mae cerddi rhydd Catrin Dafydd a chlec y gynghanedd yng ngherddi Aneirin Karadog.

    Llwydda cerdd Catrin Dafydd, i Rhodri Morgan a'i Lywodraeth, fynegi barn wleidyddol yn gryno ac effeithiol.

    Ceir unoliaeth yn y gerdd a'r weithred o 'ddadlau' yn ganolog i'r dweud.

    Teimlad ac angerdd sy'n nodweddu awdl Aneirin, Darluniau i gymoedd De Cymru, a'r cyfan yn llifo'n rhwydd ac yn hynod weladwy.

    Mae'r graddoli hyfryd o dristwch ac anobaith tuag at orfoledd gobeithiol y penillion olaf yn argyhoeddi'n llwyr.

    Mae'r gyfres o englynion a geir ar ddiwedd y gyfrol gan y pedwar cynganeddwr yn glo teilwng i gyfrol hwyliog y cefais fwynhâd mawr yn ei darllen a lle mae pob un o'r beirdd â rhywbeth newydd, ffres i'w ddweud.

    Gobeithio na fydd hi'n rhy hir, felly, cyn y gwelwn ni'r pump yn mynd ati i lywio cyfrolau eraill tua'r wasg, boed hynny ar y cyd neu'n unigol.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Lowri Roberts

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý