Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bywyd Bach
Golwg arbennig ar gyfnod a lle

  • Adolygiad Gwenllïan Rowlinson o Bywyd Bach gan gwyn Thomas. (Cyfres y Cewri 30). Gwasg Gwynedd. 210 tt, £7.95.
  • Tybed beth sy'n dod i'ch meddwl pan fo rhywun yn sôn am Flaenau Ffestiniog?

    Chwareli llechi, glaw, Glyn Wise efallai.....?

    Mae'r rhan fwyaf o hunangofiant y llenor a'r ysgolhaig Gwyn Thomas, Bywyd Bach, wedi'i leoli yn y dref unigryw honno - er, i fod yn fanwl gywir, mewn tÅ· capel yn Nhanygrisiau, rhyw filltir neu ddwy o'r dref, y ganwyd Gwyn Thomas - dair blynedd cyn yr Ail Ryfel Byd.

    Cymdeithas glos
    Ond roedd yr holl ardal yn nodedig am ei chymdeithas glos, anghydffurfiaeth ei chrefydd a'i diwydiant llechi gyda theimlad cryf o fod yn perthyn.

    Cymdeithas gyda'r capel a'r Ysgol Sul yn ganolog iddi, a chymdeithas wahanol iawn i'n cymdeithas ni heddiw.

    Mae Gwyn Thomas yn sôn am y wefr o gael oren a darn o siocled yn y capel un Nadolig - fe fyddai angen cymaint mwy i greu'r un wefr yn ein plant heddiw!

    Mae gan Gwyn Thomas hefyd gof byw am y siopau bach amrywiol oedd yn y Blaenau yn y cyfnod hwnnw gydag atgofion melys am y losin, y sglodion a'r Vimto!

    Tybed faint o'r siopau hyn sy'n dal yn agored?

    Cymeriadau cofiadwy
    Ymddengys bod gan y Blaenau ei dogn o gymeriadau cofiadwy hefyd a byddai rhai yn dweud eu bod hwythau braidd yn brin yn ein hamser ni!

    Oes symlach oedd hon pan roedd yn rhaid i bobl greu llawer o'u diddanwch eu hunain - cyfnod y magic lantern a'r cwmnïau drama ac mae Gwyn Thomas yn disgrifio'r rhaglen radio Noson Lawen yn ymweld â'r Blaenau - achlysur go iawn!

    I fachgen bach yn tyfu yn ystod y Pedwardegau roedd pethau eraill i ryfeddu atynt hefyd ac mae Gwyn Thomas yn sgrifennu'n afieithus am ffilmiau a chymeriadau fel Batman a Tarzan yn dod yn fyw yn y Gymraeg wrth i'r hogiau ail fyw eu gwrhydri.

    Pery'r diddordeb hwn yn y sgrin fawr hyd heddiw ynddo, meddai.

    Mae'n amlwg i rai pethau adael argraff ddofn arno. Mae'n ysgrifennu'n ddwys am farwolaeth ei fam ac aelodau eraill y teulu gan ddisgrifio'r digwyddiadau hyn fel pe byddent wedi digwydd ddoe.

    Mae'r cof yn fyw hefyd o'r diwrnod yr ildiodd yr Almaen a'r Rhyfel yn Ewrop yn dod i ben pan oedd ef yn blentyn wyth oed.

    Mae nifer o straeon difyr am blentyndod a llencyndod yn y Blaenau, y chwaraeon, dyddiau ysgol a'r 'Sgolorship', a'i hanes yn cadw ieir - cyn i lwynog eu llarpio

    Prifysgol
    Ond daeth pethau plant i ben pan aeth i'r Brifysgol ym Mangor lle gadawodd nifer o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr eu hargraff arno - rhai ohonynt wedi amlygu eu hunain ym mywyd y genedl wedyn.

    Mae hanes difyr iawn amdano yn ymweld â'r hynod Bob Owen, Croesor, y chwilotwr adnabyddus.

    Ceir peth o hanes Gwyn Thomas yn ymchwilio yn Rhydychen, a'r criw Cymraeg oedd yno ar y pryd hefyd.

    Cyfyngu ei hun i 30 mlynedd cyntaf ei fywyd a wnaeth yn y llyfr. Dyma, meddai, y cyfnod a ffurfiodd ei gymeriad, yn arbennig felly ddeunaw mlynedd cyntaf ei fywyd yn y Blaenau a'i brofiad o'r gymdeithas glos lle'r oedd teuluoedd a chymdogion yn ysgwyddo beichiau'i gilydd mewn argyfwng cyn bo sôn am unrhyw wasanaethau lles statudol.

    Mae hwn yn llyfr llawn difyrrwch; yn ffraeth ac yn lleddf a chydag angerdd yr awdur yn llifo drwyddo.

    Ac ar y ddalen olaf mae gwraig Gwyn Thomas yn datgelu mai rhinwedd mawr ei gŵr yw ei fod bob amser yn plygu ei byjamas!

    Ond mae'r llyfr yn brawf fod y gallu i ysgrifennu hunangofiant difyr yn rhinwedd mawr arall.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad arall o Bywyd Bach

  • Gwilym Owen yn holi Gwyn Thomas

  • Blwyddyn Bardd Cenedlaethol


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý