Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Creaduriaid Hud Myrddin Ddewin
Dychymyg dewin darluniau
  • Adolygiad Glyn Evans o Creaduriaid Hud Myrddin Ddewin gan Graham Howells. Addasiad Gwyn Thomas. Gomer. £8.99.



  • Does dim amheuaeth mai Creaduriaid Hud Myrddin Ddewin fydd 'llyfr hosan Dolig' gorau 2008. Anodd rhagweld unrhyw un arall gwell.

    Mae yr union faint iawn - cwta bum modfedd efo saith (135x190) ac yn brothio o luniau gyda'r mwyaf anhygoel.

    Cyfeiriadur bychan ydi o i gymeriadau chwedlonol oes Myrddin yn amrywio o ddreigiau i dylwyth teg - ac annheg - a choblynnod.

    Clawr y llyfr Mae chwe adran: Dreigiau; Tylwyth Teg a Thylwyth Cas; Creaduriaid Cyfarwydd; Creaduriaid dan ddaear; Creaduriaid y dŵr a Chewri a thrigolion y mynyddoedd.

    Mae yma bwca a phwca, bwbach a bwci bo, Gwrach y Rhibyn, Cath Palug, Bodach Glas a Chyhyraeth.

    Y patrwm yw llun lliwgar gyda dalen o ddisgrifiad gyferbyn.

    Yr hanes tu ôl i'r llyfr yw i Graham Howells o Lanelli ddod o hyd i gyfres o lawysgrifau "mewn ogof bellennig ym mynyddoedd Sir Gâr" y "teimlai'n lled hyderus" ei fod yn waith Myrddin ddewin ei hun!

    Gwrach y Rhibyn "Ers y darganfyddiad hynod hwnnw, bu Graham wrthi'n ddiwyd yn addasu testun Myrddin ar gyfer y darllenydd modern gan ychwanegu ei ddarluniau unigryw ei hun i ddod â'r wybodaeth hynafol yma'n fyw o flaen dy lygaid," eglurir.

    Syniad gwych, wedyn, oedd cael Yr Athro Gwyn Thomas, bardd, ysgolhaig ac arbenigwr ar yr hen chwedlau Cymreig i addasu'r testun.

    Ganddo ef hefyd mae rhagair yn gosod Myrddin yn ei amser a'r creaduriaid rhyfeddol sydd yn y gyfrol:
    "Y mae'r rhan fwyaf o'r coelion am 'greaduriaid' Myrddin yn hen: fe geir ambell un ohonyn nhw yn ein Mabinogion ni - dyna ichwi'r hen gyfaill Y Twrch Trwyth . . . neu'r Coraniaid," meddai.

    "Y mae hen Fyd Arall y Cymry yma, dan yr enw 'Annwn' sef yr hen enw a ddaeth dros y canrifoedd i olygu 'Uffern'," meddai.

    Ac mae ganddo air o rybudd:
    Bwgan "Wrth ichwi fynd allan yn y nos gwyliwch rhag Gwragedd Annwn a Chŵn Annwn - maen nhw'n beryglus iawn."

    Yn wir mae'n ymddangos bod peryg yn gysylltiedig â'r rhan fwyaf o'r creaduriaid hyn - mae hyd yn oed y Tylwyth Teg yn greaduriaid go wahanol a llawer mwy sinistr nag a dybiwn ni dan arweiniad eu brenin - corniog yn hytrach na choronog - Gwyn ap Nudd !

    Mae'r Bwgan, Bwci Bo neu Bwci Bal, wedyn, yn edrych "mor ddychrynllyd fel na ellir byth anghofio unrhyw gyfarfyddiad â hwy".

    Y Coraniaid wedyn yn greaduriaid a chlustiau main iawn;
    "Fe gariai'r gwynt hyd yn oed y sibrwd distawaf yn unrhyw ran o'r wlad i'w clustiau. Allai neb gynllwynio yn eu herbyn heb iddyn nhw glywed," meddir.

    Direidus a "digon clên" yw'r disgrifiad o'r Bwbach ond "gall eu pranciau fod yn drwblus iawn, ac yn arbennig yng nghwmni rhai nad ydyn nhw'n yfed diod gadarn, a gweinidogion".

    Y lluniau, wrth gwrs, sy'n gwneud hon yn gyfrol hon yn un amheuthun ac y mae dychymyg Graham Howells yn rhywbeth i ryfeddu ato gan beri i rywun fynd nôl a blaen drwy'r gyfrol yn ddiddiwedd.

    Rhan o'r Sarff-geiliog Creaduriaid "Myrddin Ddewin" meddai'r clawr - ond yn ei ffordd mae dychymyg yr arlunydd hynod hwn yn ddewinol hefyd.

    A phe byddai gofyn i mi ddewis y rhyfeddaf o'i holl greaduriaid byddwn yn mynd am y Sarff-geiliog sy'n edrych mor ofnadwy fod gweld ei hadlewyrchiad ei hun yn ei lladd!

    Yr heibrid rhyfeddaf fyw, o'i gweld i gyd, wedi ei deor o wy a ddodwyd gan geiliog a'i ori dan lyffant du neu sarff!

    Anodd dychmygu effaith hon a'r creaduriaid eraill ar rywun dan ddylanwad dau'n dri o sieris Dolig go nobl.
    Waaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý