Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Englynion Barddas 3
Yr 'Englyn drivers' yn gyrru mlaen
  • Adolygiad Derec Llwyd Morgan o Englynion Barddas 3. Elwyn Edwards (gol.). Cyfres Llyfrynnau Barddas, 83tt., pris £5.



  • Yn y cyfnod cyn-Feechingaidd hwnnw pan freuddwydiai ambell grwt am ddilyn gyrfa fel gyrrwr injan-drên, yr oedd yn fy nosbarth i yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman fachgen smala di-Gymraeg a fynnai o hyd mai uchelgais Dafydd ap Gwilym yn grwt oedd bod yn englyn driver.

    Ni wn hyd y dydd heddiw sut y gwyddai Ian Davies am na Dafydd nac englynion, ond rhywsut yn ei ffraethineb cafodd afael ar rywbeth a fu'n uchelgais gan lawer o gynganeddwyr modern canmil salach na'r bardd o Fro Gynin.

    Clawr y llyfr Englyn drivers go iawn yw llawer o'r prydyddion y codwyd eu cerddi o'r cylchgrawn Barddas i'w cadw ar glawr mwy parhaol yn y gyfrol hon, y drydedd o'i bath.

    Gan na cheir nodyn golygyddol iddi, nid oes modd dweud ar ba egwyddor y detholwyd hwy nac ar ba egwyddor y trefnwyd eu gosod fel a wnawd.

    Ymarferiadau
    Y mae'n amlwg fod llawer o'r englynion yn ymarferiadau mewn ysgrifennu: onid ê, pam yr holl gyfresi i adar ac anifeiliaid a blodau gan gynifer o'r awduron?

    Prin i Hwn-a-Hwn gael ei ysbrydoli i ganu am gamel a llewpart a mwnci a chrocodeil, ac i Llall-ac-Arall gael ei ysbrydoli i ganu am dinwen y garn a dryw a thylluan ac yn y blaen.

    Chwarae y mae'r prydyddion, pyncio er mwyn gwneud sŵn, cyflawni gwrhydri cynganeddol.

    Yn yr un modd, prin fod yna reswm crefyddol na diwinyddol dros y nifer piwr o englynion sydd yn y gyfrol i eni Iesu Grist: ni ddywedir dim gwahanol, dim byd amgen, ynddynt.

    Gan hynny, beth yw eu diben, ac eithrio unwaith yn rhagor fodloni rhyw uchelgais uwch y weilgi?

    Wrth gwrs, fe gaiff darllenwyr wrth y dwsin fodd i fyw yn pori yma, ymarferwyr y glec yn ymhyfrydu yng ngweithiau ymarferwyr eraill, a da iawn hynny.

    Gwir wefreiddiol
    Ar ôl imi ddweud mai ymarferion yw llawer iawn o'r rhain, noder bod gennyf dic mewn pensil wrth ddegau o'r englynion hyn, tic i f'atgoffa i fynd yn ôl atynt, am eu bod yn ffraeth neu'n fynegiant o wirionedd diymwad, neu am fod ynddynt linellau gwir wefreiddiol.

    Un da oedd J. Arnold Jones, yntê?
    A Dic Goodman a Derwyn Jones.
    Am symlrwydd nid oes a gura Geraint Bowen, er cyn lleied o englynion sydd ganddo yma.

    Am rythmau nid oes a gura T. Arfon Williams.
    Am ias, Gerallt Lloyd Owen amdani. 'Nid wyf' meddai 'ond ysbaid o wêr'.
    Y mae'r llinell honno'n werth pumpunt ynddi'i hun.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý