Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bachgen yn y Môr
Mwy o bleser na theledu!
Adolygiad Glyn Jones o Bachgen yn y Môr. Addasiad Elin Meek o Boy Overboard gan Morris Gleitzman. Gomer. £4.99.

Mae'r trosiad hwn gan Elin Meek o'r nofel Awstralaidd Boy Overboard gan Morris Gleitzman yn un priodol iawn.

Nofel yw hi am deulu yn ffoi am eu bywydau a chyda mewnfudo yn bwnc llosg fe'i cyhoeddwyd ar adeg amserol iawn.

Jamal yw'r prif gymeriad, ac ef sy'n adrodd yr hanes; techneg effeithiol gan fod Jamal oddeutu'r un oed a'r darllenwyr yr anelir atyn nhw - rhyw 13 oed.

Clawr y llyfr Hawdd fydd uniaethu â'i freuwddyd o fod yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol.

Dechreua'r nofel yn arbennig drwy gyferbynu dwy sefyllfa:

"Fi yw Manchester United ac mae'r bêl gyda fi ac mae popeth yn dda.
Does dim mwg, na nwy nerfau, na stormydd tywod.
. . . Dyma Newcastle United yn rhuthro ataf i. Dw i'n osgoi'r dacl. Un bach yw Aziz ond mae'n gyflym ac mae'n dod amdanaf eto.
. . . Dw i'n gwenu, mynd heibio iddo, llywio'r bêl o gwmpas gard olwyn hen gerbyd milwyr, a gweld mod i o flaen y gôl."

Enwau timau pêl-droed Lloegr ond chwaraewyr gydag enwau Moslemaidd.

Er cymaint y cwynwn am y diwylliant Prydeinig yn y gornel hon o'r ddaear, gwelwn ei fod yn cynrychioli'r rhyddid eithaf i drigolion y nofel. Yn wir, sancteiddir pêl-droed fel symbol o'r rhyddid hwn.

Mae'r ffaith fod y plant yn chwarae o amglych darnau o hen gerbydau rhyfel yn dangos goruchafiaeth y breuddwydion hyn dros yr awyrgylch rhyfelgar sy'n ganolog i'w bywydau.

Llwydda Elin Meek i gyfleu'r awyrgylch hwn yn ei haddasiad, y brawddegau byrion a'r cymalau tynn, y 'dyma' a'r 'dw i'n' rhoi naws 'sylwebol' i'r darn.

Hoelir ein sylw, a sylw'r cymeriadau ar y gêm fel petai dim byd arall yn bodoli.

Dryllio'r awyrgylch
Ond buan y gwelwn mai rhith yw hyn. Mae'r awdur yn dryllio'r awyrgylch gan ddod a ni, a'r cymeriadau, yn ôl i realiti rhyfelgar y wlad:

"'Jamal, Jamal. Dere'n glou! Mae dy chwaer ddwl wedi sefyll ar ffrwydryn tir.'"

Mae'r awdur yn hoff o orffen pennod gydag uchafbwynt fel hwn a daw â chyffro i'r nofel a'n hysio i droi i'r dudalen nesaf.

Sylwch hefyd ar y modd yr addasir y ddeialaog. Mae mewn tafodiaith naturiol ac yn gwbl gredadwy.

Bygythiad, mentro, gobaith. Dyna dri o brif themâu'r nofel gydag un yn plethu'n naturiol i'r llall ac fe'u datblygir wrth i'r gwahanol gymeriadau ymateb i'r sefyllfa y mae ynddi.

Dyna Bibi, chwaer Jamal, sy'n ymateb i'r bygythiad drwy fygwth:

"Mae Bibi, a'i llygaid yn fawr gan ddicter, yn taflu carreg arall.
'Y talpiau meddal o gaca camel,' gwaeddai ar y tanc. 'Rhowch ein pêl nol i ni.'"

Dyma enghraifft o ddawn yr awdur i greu cymeriad heb ddisgrifio ond trwy adael i'r cymeriadau fod yn nhw eu hunain a thrwy eu hymateb naturiol i sefyllfaoedd.

Daw diniweidrwydd herfeiddiol Bibi â syndod i'n llygaid a gwên i'n gwefusau. Hi yw fy hoff gymeriad, ac yn fy marn i, cymeriad 'gorau'r' nofel.

Darllenwn am weithredoedd y cymeriadau eraill.
Darllenwn am rai Bibi, a rhyfeddu.
Er hyn, maent yn gwbl gredadwy.

Bod yn deg
Dywed seicolegwyr fod canfyddiad plant oed Bibi o decwch ac anghyfiawnder yn hynod o gryf.

Yn ogystal, daw Bibi â llais y ferch i'r nofel, sy'n golygu bod y nofel gan ei gwneud yn gwbl addas i ferched ac i fechgyn.

Nid yn unig mae Bibi yn chwarae pêl-droed, sy'n waharddedig i ferched, ond yn gwneud hynny yn well na'r bechgyn.

Mae pawb eisiau chwaer fach fel hon. Wrth gwrs, rhaid rhoi llawer o'r clod i'r addasydd am hyn wrth iddi lwyddo i drosglwyddo ffraethineb Bibi i'w throsiad.

Fodd bynnag, mae'r nofel yn frith o gyd-ddigwyddiadau cwbl afreal. Jamal a'i deulu am fynd i Awstralia ac yna, syndod, syndod, yn gweld dyn o Awstralia yn y gwersyll ffoaduriaid.

Yn fwy annhebygol fyth, pan fo'u cwch ar fin suddo ar arfordir yr ynys, dyma'r dyn a ddaw i'w hachub!

Ond o gofio nad ar gyfer pobl hÅ·n y sgrifennwyd y nofel dichon fod beirniadu hyn yn annheg ac y bydd cyd-ddigwyddiadau o'r fath yn ychwanegu at y cyffro i ddarllenwyr iau.

Gwirioneddol wych
Mae ambell disgrifiad gwirioneddol wych yn y nofel, megis y disgrifiad o bobl Awstralia:

"Mae nhw'n dechrau chwerthin y peth cyntaf yn y bore a dydyn nhw ddim yn stopio am ddwy awr ar ôl iddyn nhw fynd i gysgu yn y nos."

Daw disgrifiadau o'r fath â hiwmor i'r nofel, a chredaf eu bod cyn bwysiced a phlot diddorol - yn enwedig i blant.

Fe'm plesiwyd hefyd gydag ymdrech yr addasydd i Gymreigio'r nofel.

Mae ei brawddegau yn gyforiog o briod-ddulliau fel "Wrth gerdded gan bwyll bach" ac "Â'm gwynt yn fy nwrn."

Mae'r cyfuniad hwn o blot cyffrous, mynegiant dychmygus a Chymraeg naturiol yn gwneud y nofel yn un rhagorol, a bydd ei darllen yn brofiad milwaith mwy cyffrous na gwylio unrhyw beth ar y teledu!


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý