Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Capeli Môn
Llewyrch ddoe yn gur pen heddiw
  • Adolygiad John Stevenson o Capeli Môn gan Geraint I L Jones. Gwasg Carreg Gwalch: £7.50

  • Rhestr gynhwysfawr o gapeli Ynys Môn ac ychydig o'u hanes a manylion cefndirol am eu pensaerniaeth.

    "Cwt y Fendith," oedd yr enw cynnes a hudolus ar adeilad a ddaeth yn ei dro yn Gapel Paran y Presbyteriaid ym mhentref Rhosneigr ar Ynys Môn.

    Mae fy niolch i'r gyfrol Capeli Môn gan Geraint I.L.Jones am y tamaid blasus yna o wybodaeth.

    Clawr y llyfr Dywed Geraint Jones yn ei ragair, nad ei fwriad oedd i'w lyfr fod yn werslyfr ar hanes Anghydffurfiaeth ym Môn. Mae pwyslais y llyfr meddai ar hanes yr adeiladau "heb unrhyw ymdriniaeth o athroniaeth crefydd a'r gwahanol enwadau".

    Dyna wendid a hefyd gryfder y gyfrol!

    Mae hon felly yn dra gwahanol i gyfrol orchestol y Dr Eryn White, er enghraifft, ar dwf Anghydffurfiaeth yn Ne Ceredigion gyda 'r gyfrol honno, Praidd Bach y Bugail Mawr, yn astudiaeth a dadansoddiad meistrolgar o gychwyn rhywbeth a ddaeth yn ei dro i dra arglwyddiaethau ar hanes a datblygiad crefydd yn y Gymru Gymraeg.

    Ar drai
    Mae deng mlynedd a'r hugain ers cyhoeddi'r gyfrol Braslun o Hanes Methodistiaeth Calfinaidd Môn 1935-1970 a olygwyd gan y diweddar Huw Llywelyn Williams yn gosod braslun byr o gapeli unigol, ym mhob un o Gyrddau Dosbarth yr Ynys.

    Tristwch y gyfrol honno oedd bod yr awduron yn croniclo hanes Methodistiaeth ym Môn pan oedd oes aur yr enwad ar drai gyda sylweddoliad yn y llyfr fod y sglein wedi diflannu ond hefyd obaith am ddyddiau gwell yn rhedeg fel llinyn arian drwy'r gyfrol.

    Cyhoeddwyd cyfrol Geriant Jones ar adeg pan fo hyd yn oed y mwyaf ffyddlon o'r ffyddloniaid yn sylweddoli fod y gorau drosodd.

    Balchder
    Mae'n hawdd, wrth gwrs, gor-ramantu am yr hyn symbylodd y ffyddloniaid i godi ein capeli anghydffurfiol yn y lle cyntaf a hawdd diystyru yr hunan falchder, os nad yr hunan fodlonrwydd, ymhlith pendefigion yr enwadau anghydffurfiol.

    Gwerth cyfrol Geraint Jones ydi dangos i gapeli Anghydffurfiol Môn dyfu fel madarch ar hyd a lled yr Ynys. Yn y pentrefi lleiaf hyd yn oed yr oedd o leiaf un capel Methodist!

    A dyna dref Caergybi gyda 26 o gapeli.
    Caerceiliog: Capel Presbyteraidd a Bedyddwyr;
    Brynsiencyn: pedwar capel.
    Llanfachraeth: tri chapel.

    Mae'r rhestr o gapeli ar ddiwedd y gyfrol yn tystio i nerth y dystiolaeth anghydffurfiol ar yr Ynys.

    Mae'r gyfrol, yn fwriadol neu beidio, yn llwyddo i ddryllio un chwedl.
    Yn ei ddydd ac ar ei orau, roedd enwad y Methodistiaid Calfinaidd i'w weld yn tra arglwyddiaethu dros fywyd yr ynys ond mae llyfr Geraint Jones yn ein hatgoffa hefyd o gyfraniad yr enwadau eraill.

    Penodau blasus
    Hefyd, mae penodau blasus am enwau capeli; penseiri a phennod yn ymdrin ag arweinwyr anghydffurfiol Môn.

    Siomedig braidd yw pennod yn ymdrin ag arweinwyr crefyddol yr Ynys gan fod cymaint yn cael eu hanwybyddu.

    Does dim sôn o gwbl am Huw Jones Parry - gŵr diymhongar, er yn glamp o athrylith na chafodd yn ei ddydd, y gydnabyddiaeth a haeddai.

    Yn weinidog Capel TÅ· Rhys, Llangoed, yr oedd yn bregethwr cyrddau mawr gyda'r athrylith a'r ysgolheictod i fod wedi tyfu yn un o ysgolheigion Beiblaidd mawr ei gyfnod.

    A beth am John Evans Bryndu; Cwyfan Hughes, Amlwch; R E Davies, Llannerchymedd; Dr Lywelyn Jones, Caergybi.

    Does dim sôn amdanynt.

    Byddai'n fuddiol i unrhyw un sy'n ymddiddori yn y maes i ddarllen cyfrol ddifyr Emlyn Richards, Pregethwrs Môn.

    Defnydd gwahanol
    Ffaith drist arall a ddaw yn amlwg yn y gyfrol yw fod sawl Jerwsalem; Bethesda; Nasareth a Chalfaria yn cael eu defnyddio bellach i bwrpas cwbwl wahanol i'r hyn a fwriadwyd iddynt.

    Mae'r capeli a oedd o gymaint bendith i'r cenedlaethau a'u cododd yn gur pen go iawn, heddiw, i'r rhai sy'n gorfod gofalu amdanynt.

    Yn ddibris
    Un o wendidau mawr Anghydffurfiaeth heddiw - ac mae cyfrol Geraint yn adlewyrchu hynny mewn ffordd annisgwyl - yw fod yr enwadau i gyd mor ddibris o'u treftadaeth a'u hanes. Sef o'r hyn roddodd fodolaeth iddyn nhw yn y lle cyntaf.

    Yn y crwsâd i ddod o hyd i'r hyn sy'n eu huno fel enwadau - ac i gyfiawnhau cau capeli - mae gwir berygl inni anghofio profiadau a chredoau pobol gyffredin a roddodd fodolaeth i'r clytwaith o Jerwsalems neu Fethesdas yn y lle cyntaf.

    Os yw Anghydffurfiaeth i oroesi, mae'n rhaid iddi gydio eto yn ystyr, pwrpas a phrofiad y bobol aeth ati i godi'r "blychau sgwâr di addurn, llwm" yr holl flynyddoedd yn ôl.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý