Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O Lethrau Cefn Gwyn
Cofiant geiriadurwr
  • Adolygiad Meg Elis o O Lethrau Cefn Gwyn gan Gwilym Lloyd Edwards. Carreg Gwalch. £7.50


  • "For really I think that the poorest he in that is in England hath a life to live as the greatest he."

    Fe allwn roi hwn fel arwyddair i'r gyfrol fechan hon - ond buasai'n rhaid i mi newid "in England" wrth gwrs, a throi'r Putney Debates yn Rhyfel y Degwm, yn codi'r Faner Goch, yn Bont Trefechan, yn Wrthryfel y Siartwyr - o, be di'r iws, gyda manylion y selebs distadlaf yn Lloegr yn tra-arglwyddiaethu ar ddigwyddiadau go-iawn yng Nghymru...?

    Clawr y llyfr Hanes bywyd distadl.
    Nid distadl ychwaith, ddywedwn i, gan mai hanes geiriadurwr yw hwn ac un a fu yno ar y cychwyn, adeg sefydlu'r hyn sy'n Feibl i ni gyfieithwyr a phawb sy'n ymhél ag iaith, sef Geiriadur y Brifysgol.

    Mae'n dod o ardal fy nghyndeidiau. Mae'n ymwybodol, o'i dras.
    Ac eto ... ac eto.

    Ysgol fach
    "Diddordeb lleol," meddai rhywun wrth sbïo ar y llyfr yr oeddwn i'n ei ddarllen. Ie debyg, os ydych am ddarllen hanes ac achau'r teulu.
    Maent yn cael eu gosod allan yma yn berffaith, yn gywrain - a does gen i ddim diddordeb o gwbl.

    A hanes bywyd mewn ysgol fechan?
    Sori, mae ysgolion bychain yn cau y dyddiau hyn, a iawn hynny.
    Mae gan bobl fwy o ddiddordeb mewn cael addysg gyflawn i'w plant na'u cadw gydag un athro/athrawes am holl flynyddoedd pwysig eu datblygiad addysgol.

    Petaen nhw'n gwir yn ymboeni am ddyfodol yr ysgol leol, mi fuasent wedi aros yn y pentref a gyrru eu plant yno. Fe wnaethon nhw hynny yn Ysgol Llangywer yn amser Gwilym Lloyd Edwards ac y mae o'n brawf o werth yr addysg honno yn ei chyfnod.

    Gyda'r cenedlaethau a ddilynodd, newidiodd pethau, aeth y plant a'u teuluoedd i ffwrdd ymhellach, a moethusrwydd bellach yw cwyno am gau'r ysgol fach leol.

    Fel crair
    Rydw i'n edrych ar y gyfrol hon fel petawn i'n edrych ar grair. Mi alla'i ganmol cymaint amdani.
    Y sgwennu clir, annwyl, cain.
    Y darlunio manwl.
    Y cymeriad annwyl a ddatgelir.
    Y byd sydd wedi diflannu.

    Hwnna ydi o - fel y basa Ifas y Tryc yn ddweud, creadigaeth Wil Sam, sydd hefyd wedi mynd.
    Sbïo'n ôl y mae rhywun yn y gyfrol hon.
    Mae'n gameo perffaith o fyd diflanedig, ond y mae'r byd, a'r ysgrifennu hefyd, yn perthyn i gyfnod a fu.

    Tydw i ddim wir yn pryderu am hyn am fod yna gynulleidfa i'r math yma o sgwennu o hyd ac am fy mod i'n ei werthfawrogi.

    Ac fel rhywun sy'n ymwneud â geiriau, mae'r adran am fywyd yr awdur fel geiriadurwr yn hynod werthfawr ac yn ddiddorol dros ben.

    Yr ifanc
    Ga'i fod yn onest?
    Fydd y llyfr hwn ddim yn denu darllenwyr ifanc newydd at y Gymraeg - ond nid dyna'r bwriad, decini. Mi fydd yn denu'r to hÅ·n.
    Iawn. Dwi'n nesáu at y to hwnnw fy hun. Erbyn hyn . . .

    Ond dyma fy nadl fawr.
    Mae angen ysgrifennu am y gorffennol mewn modd sy'n denu'r dyfodol.
    Mae J K Rowling yn ei wneud o. A pheidiwch a chamgymryd, y gorffennol sydd ganddi hi - ysgolion bonedd, cred, a brwydr. Perthyn a chred, yw popeth bellach, a buasai heddlu'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn dod i lawr ar Harry Potter fel tunnell o frics petae ganddynt y crebwyll i'w ddeall.
    Ond does ganddyn nhw ddim.

    Diolch am hynny, neu fe fuasen nhw'n alltudio'r math hwn o lyfr hefyd - am ei fod yn sôn am gymdeithas geidwadol, batriarchaidd, anghofiedig - werthfawr.

    Dwi'n mawrygu'r llyfr hwn a hefyd yn dyfynnu Gerallt Lloyd Owen:

    "Fel hyn bob dydd diflannwn; fesul un,
    Fesul awr ffarweliwn
    Â'r Cymreictod hynod hwn,
    Diwylliant nas deallwn."

    Mae yna rai fydd yn deall ac yn croesawu'r llyfr hwn.
    Nid y mwyafrif. Ond tydan ni wedi arfer â bod mewn lleiafrif?

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Martin Williams


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý