Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Moch a Straeon Eraill
Dychryn a gwae - bendigedig

  • Adolygiad Llinos Dafydd o Y Moch a Straeon Eraill gan Dyfed Edwards. Gwasg Carreg Gwalch. £7.50
  • Tachwedd 2007

    Os ydych chi'n gall, fyddwch chi ddim yn darllen y gyfrol hon gyda'r nos, ar eich pen eich hun, mewn tŷ mawr ar ochr stryd, yn llawn corynnod, cysgodion a Duw a ŵyr beth arall! Clawr y llyfr

    Dyna a wnes i.
    Darllen y straeon un noson pan oedd y gŵr i ffwrdd yn gweithio a fy merch fach yn cysgu'n braf yn y 'stafell gyferbyn.
    Ac difaru fy enaid!

    Nid am bod safon y straeon yn wael ond oherwydd i bron bob un fferru fy ngwaed a pheri i mi gael noson anghysurus o gwsg ac amau pob smic yr oedden i'n ei glywed wedyn.

    Ai sŵn putain gyda nadroedd yn wallt oedd ar y grisiau?
    Na, dim ond y bobol drws nesa'n mynd i'w gwely mae'n siŵr.
    Gobeithio!

    Ydy'r cwpwl ifanc sydd wedi symud gyferbyn â ni'n mynd i'n lladd ni gyd?
    Maen nhw wedi bod draw i gyflwyno'i hunain, a'u cyfenw yw Jones - yn gwmws fel stori arswyd, Mr a Mrs Jones gan Dyfed Edwards!

    Ydy fy ffrind yn mynd i gael ei lladd gan ddraig ar ôl cael tatw draig ar ei chefn; ac ydy fy nymuniadau ffwrdd a hi, fel gobeithio bod yr hulpan wirion sy'n gweithio yn y Spar wir yn mynd i gael ei tharo lawr gan fws am beidio â gadael imi brynu lager y noson o'r blaen - er fy mod i'n 22?!

    Amau pob dim
    Gwnaeth y gyfrol hon i mi amau pob dim mewn bywyd ond ar yr un pryd rwyf innau wedi cymryd y straeon o ddifrif - go iawn.

    Ond byd ffantasi sydd fan hyn.
    Ond er hynny, mae yna ambell i wirionedd yn llechu - fel y ffaith na allwch chi ymddiried yn neb y dyddiau hyn.

    Mae sawl darlun wedi aros yn fy nghof - fel yr olygfa yn y puteindy yn Hon
    "Tynhaodd cyhyrau Harris wrth wylio'r seirff yn sleifio i'r tyllau yng nghorff Williamson; i'w geg a'i ffroenau a'i glustiau . . . a gwelodd Williamson yn cydio ym mochau ei din."

    Rwy'n edmygu pobol sy'n medru ysgrifennu straeon arswyd gan fod gofyn arnyn nhw i fod yn fanwl iawn yn y dweud, cael llinyn stori a thro yn y gynffon yn aml iawn.
    Mae'n ddawn ynddi ei hun.

  • Gelyn hynafol yn effro wedi canrifoedd yn y pridd yn aflonyddu ar y ddynolryw fu'n gyfrifol am ei drechu;
  • Cymdogion gwên deg sydd â bwriadau arswydus;
  • Byd natur yn dial ar y cnafon a fwrdrodd hen arddwr triw;
  • Dymuniadau dychrynllyd llanc barus yn cael eu gwireddu gan Sion Corn dieflig;
  • Melltith erchyll sy'n dod â dioddefaint, gwallgofrwydd a marwolaeth i unrhyw un sy'n pechu'r hen dduwiau ...

    A sawl chwedl arall o fraw a dychryn gan Dyfed Edwards sy'n mynd â'r darllenydd ar daith i'r mannau tywyll lle mae yna bethau anghynnes ar y naw yn trigo.

    Mae'r cyfan yma'n gasgliad o erchyllterau sy'n gwneud y gyfrol hon yn un gwerth chweil ac mae yna ddisgrifiadau wedi aros yn fy nghof fel y ddynes yn Hon yn cael ei disgrifio fel un â chroen fel marmor, a "gwallt yn ddu fel neithiwr" a "blas y fuddugoliaeth yn felys ar wefusau" y cawr.

    Rhybudd a gwers
    Mae gwers i ambell i stori gyda rhybudd ar ddiwedd Mr a Mrs Jones i wylio mas amdanyn nhw gan fod y cwpwl priod yn symud o le i le yn lladd eu cymdogion!

    Lle fyddan nhw mynd nesaf?
    Wel i unrhyw le sy'n llawn o gymdogion a fydd yn gwmpeini gwych ar nosweithiau tywyll.
    "Ella'ch bod chi'n un ohonyn nhw. Mi fyddai hynny'n werth chweil, yn byddai."

    Byddwn yn annog pawb i ddarllen y gyfrol hon gan y newyddiadurwr a'r awdur sy'n wreiddiol o Sir Fôn - ond yn y cyfamser, gofalwch beidio â mynd yn agos at foch, puteindai na groto Siôn Corn rhag ofn i'ch bywyd chwithau gael ei ddifetha'n llwyr!

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Hen Friwiau - adolygiad

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý