Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hanes Cymru
'Dim ond John Davies . . .'
  • Adolygiad Betsan Powys o HanesCymru gan John Davies. Penguin. £16.99.


  • "A, ie - yr unig lyfr erioed ar hanes Cymru i fi'i ddarllen o glawr i glawr - a'i fwynhau."

    Dywedwch wrth bobol fod 'na argraffiad newydd o gyfrol John Davies, Hanes Cymru ar y silffoedd heddiw a dyna'r ymateb gewch chi'n aml iawn.

    Iddyn nhw mae gen i newyddion da, sef bod 'na fwy fyth o waith darllen rhwng clawr a chlawr y tro hwn diolch i bennod olaf newydd sy'n olrhain hanes Cymru o 1979 hyd heddiw.

    Mae'r gyfrol sy'n dechrau gyda'r cromlechi bellach yn gorffen gydag 'C' fawr y Cynulliad a choelcerth y Cwangos - yn pontio o esgyrn sychion Paviland i fyd y Super Furry Animals.

    Clawr y llyfr Ydy'r bennod olaf yn cyfnerthu'r gyfrol?
    Ydy.

    Dyma bennod yr ebychiadau: 'w ie 'fyd'.

    Mae'r cwbwl, wrth gwrs, o fewn cof y mwyafrif mawr fydd yn darllen, yn bennod ry'n ni wedi byw drwyddi ac wedi'i gwylio 'as live' ar sgrin y teledu.

    Ond yma mae John Davies yn plethu'r delweddau, y geiriau a'r ystadegau mewn ffordd sy'n llywio ac yn lliwio yr un pryd.

    Y man cychwyn?
    Dau ganlyniad allweddol '79 - Na i ddatganoli, Ie i lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher.

    Ac i'r rheiny sy'n ochlyd bob tro y clywan nhw gyfeiriad at Gaerdydd eto fyth, mae newyddion da - "Shotton, Brwsel a Chaerfyrddin" yw teitl y bennod - tri lle sy'n adlewyrchu'r stori sydd gan John Davies i'w hadrodd, am ddiwedd diwydiannau trymion Cymru, am ei hesblygiad economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol.

    Ffigyrau sy'n taflu goleuni
    "Peth twyllodrus yw ystadegau," meddai'r awdur ei hunan ond mae'r bennod yn doreithiog o ffigyrau sydd, yn fy nghopi i waeth bynnag, wedi'u tanlinellu mewn pensel drom dro ar ôl tro.

    Ffigyrau ydyn nhw sy'n ychwanegu yn hytrach na boddi, ffigyrau daflodd oleuni i mi ar stori'r mewnlifiad i Gymru ac ar ddiogi'r ddadl bod y refferendwm o blaid datganoli ym 1999 wedi hollti Cymru yn ei hanner.

    "Camgymeriad fyddai credu hynny," neu "eto i gyd rhaid peidio honni gormod," meddai'r awdur fwy nag unwaith, cyn mynd ati i dyrchu dan yr wyneb a pheintio darlun ychydig yn fwy deifiol o'r hanes ry'n ni gyd yn credu'n bod ni'n ei gofio.

    Troed ar y sbardun - troed ar y brêc
    Mae'n dilyn hynt a helynt y pleidiau gwleidyddol gydag un droed ar y sbardun ac un arall ar y brêc.

    Ydy mae'n gwibio o'r naill etholiad i'r llall, o'r naill Brif Weinidog i'r llall ond o bryd i'w gilydd mae'n craffu.

    I'r rheiny fydd yn dilyn canlyniadau'r etholiad i Senedd yr Alban cyn bo hir ac yn tynnu cymhariaeth â'r canlyniadau yma yng Nghymru ar Fai 3, mae yma ddadansoddi difyr ar hynt a helynt y cenedlaetholwyr yn y ddwy wlad.

    Fel un oedd yng Nghaeredin ar noson etholiad 1992 yn barod i ddarlledu cyfweliadau gyda "Phrif Weinidog cyntaf yr Alban - Alex Salmond" ac a wyliodd o bell wrth i Blaid Cymru ennill mwy o seddi na'r SNP, mae'r dadansoddi'n arbennig o agos i'w le!

    John Davies Dim ond John Davies allai ddisgrifio'r glowyr fel criw oedd "wedi danto" a sôn am Mrs Thatcher yn "brechu'r etholwyr yn erbyn sosialaeth".

    Ac yn sicr wrth drafod yr ymgyrch o blaid datganoli ym 1979, dim ond ef allai gyfeirio at Ron Davies o bawb fel "gŵr gwynfydedig amddifad o gysylltiad a Choleg Aberystwyth".

    Darllenais sawl disgrifiad o gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru ond yr un mor annisgwyl a hwn!

    Darllenwch, a gobeithiwch fod 'na - yn rhywle - olynydd sydd eisoes yn bwrw golwg ar Hanes Cymru'r milflwydd newydd.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Rhagor am Hanes Cymru


  • Creu Cenedl - Hanes Cymru ar y We


  • cyfannwch

    aled jones
    rydw i ddim hoffi cymru

    Rhodri Evans, madagascar
    rydw yn lico y hanes cymru ond bydd i ddim os bydd na ddim byd am rygbi ynddo fe. mae rygbi yn sport dda iawn ac yn y 70s roedd ni yn gorau yn y byd. roedd ni gyda barry john ac gareth edwards. mae hanes yn tymed bach yn boring ac rhi gymlaeth i plant



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý