Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfrau'n cipio'r cestyll
Straeon a cherddi rhwng y muriau
Bydd hen chwedlau'r Cymry yn atseinio trwy rai o gestyll mwyaf mawreddog gogledd Cymru fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2007.

Mae CADW yn cynnal cyfres o sesiynau adrodd stori a darllen mewn cestyll fel rhan o ymgyrch newydd i ennyn diddordeb pobl Cymru mewn darllen.

Straeon a barddoniaeth
Yn ogystal â'r sesiynau adrodd straeon, bydd yna farddoniaeth a cherddoriaeth mewn rhai o'r sesiynau - a bydd mynediad am ddim i'r cestyll a theithiau tywys am ddim i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

  • Yng Nghastell Conwy, bydd yr awdur Fiona Collins yn adrodd straeon a cherddi yn yr hen ddull traddodiadol.

  • Yng Nghastell Biwmares, bydd Mair Wynn Hughes sydd wedi ennill gwobr Tir na n-Og dair gwaith am ei llyfrau plant yn darllen o'i llyfr diweddaraf, Ai Ysbryd?

  • Yng Nghastell Cricieth bydd Gwen Pritchard Jones - sy'n byw gerllaw - yn lansio llyfr ar gyfer plant - Gelert ac yn darllen detholiad o'r nofel a enillodd y Fedal Ryddiaith iddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd , Dygwyl Eneidiau.

  • Bydd Eric Maddern yng Nghastell Caernarfon gyda chwedlau Cymreig a chaneuon.

    Mawreddog
    "Bydd y sesiynau cyffrous hyn yn gyfle gwych i bobl fwynhau clywed iaith yn cael ei defnyddio mewn llefydd mawreddog," meddai Delyth Humphreys, o Gyngor Llyfrau Cymru sy'n cydlynu holl weithgareddau Diwrnod y Llyfr yng Nghymru.

    "Mae'r caneuon, y cerddi a'r straeon hyn yn helpu i ddod â bywyd newydd i henebion Cymru. Dyma'r ail dro i CADW gymryd rhan yng ngweithgareddau Diwrnod y Llyfr. Y llynedd, roedd y sesiynau o gymorth i helpu llawer o bobl i ddeall tipyn am eu treftadaeth a dyna pam rydyn ni'n trefnu rhaglen lawnach eleni," meddai Claire Capelin o Cadw.

    Yn y de, bydd sesiynau yng Nghwrt Tretŵr, Castell Cydweli, Castell Cas-gwent ac Abaty Tyndyrn - tair sesiwn yr un yn y pum safle am 11.00, 12.30a 2.00 am ddim i bawb.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý