Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Pybcrol Llenyddol Caernarfon
Meddwi ar ddiwylliant
  • Adolygiad o Pybcrol Llenyddol Caernarfon. Golygydd, Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch. £5.50.

    Er y gall yr ymadrodd "pybcrol llenyddol" ymddangos fel enghraifft benigamp o wrtheirio mae'r ocsimoron ymddangosiadol hwn yn rhywbeth y mae bri mawr arno ym mhrifddinas Iwerddon.

    Yno, am rhyw ddecpunt y tro gallwch gael eich tywys o dafarn i dafarn gydag arweinydd ac actorion yn sôn am gysylltiadau llenyddol y gwahanol rai.

    Clawr y llyfr A chyda chymaint o lenorion y wlad honno heb fod yn swil o godi'r bys bach mae digon i sôn amdano.

    Does dim rheswm, wrth gwrs, pam na ddylai'r un peth fod yn wir am drefi yng Nghymru. Wedi'r cyfan, nid Dylan Thomas yw'r unig un o'n llenorion a fu mewn tafarn!

    Mae Myrddin ap Dafydd i'w ganmol am gyflwyno pybcrol diwylliannol neu feddwad i'r diwylliedig fel rhan o ŵyl lyfrau newydd yng Nghaernarfon dros ŵyl Mai 2006.

    Gyda'i holl gysylltiadau hanesyddol, llenyddol a diwylliannol a'i "lleng o feirdd a llenorion" anodd meddwl am le gwell na Chaernarfon i roi cychwyn ar y fath gymowta ac mae'r arweinlyfr a gyhoeddwyd i gydfynd a'r achlysur yn cadarnhau hynny.

    "Mae'r Gwyddel yn hen law ar droi ei dreftadaeth yn ddifyrrwch ac yn ffon fara . . .pam na fedrwn ninnau wneud yr un peth?" meddai Myrddin ap Dafydd wrth gyflwyno'r gyfrol.

    Er na fyddai unrhyw amheuon ynglŷn â chyhoeddi'r gyfrol gallwn dychmygu rhywfaint o gyfyng gyngor ynglŷn â'i diwyg.
    Ar y naill law byddai temtasiwn i gyhoeddi un y gellid ei chludo'n hwylus yn eich llogell tra'n teithio ond, ar y llaw arall, byddai digon o ddeunydd at alw i lunio llyfr eithaf swmpus i'w ddarllen yn y tÅ·.

    Y dewis cyntaf a orfu; er dydw i ddim yn siŵr faint o draul oddefir gan y llyfr.

    Dull y gyfrol yw rhestru fesul un bedair tafarn ar bymtheg a chynnwys dyfyniadau perthnasol i bob un - yn rhyddiaith ac yn farddoniaeth.

    Hyd yn oed heb fentro rhoi un troed o flaen y llall mae'r gyfrol yn ddifyr. Ychwanegir at y difyrrwch hwnnw o fod yn y fan a'r lle a chyda hynny mewn golwg byddai map wedi bod yn fuddiol.

    Does yna, ychwaith, ddim mynegai i'r gyfrol; rhywbeth arall a fyddai wedi bod yn fuddiol.

    Mae yma bob math o wybodaeth ddifyr:
  • Yr Uxbridge Hotel oedd enw gwreiddiol Gwesty'r Celt pan godwyd y lle gan Iarll Uxbridge, Ardalydd Môn yn 1794. Newidiwyd yr enw yn Royal Hotel yn dilyn ymweliad y Frenhines Victoria a'i mam yn 1932.

  • I'r Marcwis hwnnw y cannodd y Bardd Cocos:
    Mae'r Marcwis of Anglesey
    Wedi colli'i glun
    Tasa fo'n colli'r llall
    Fasa ganddo fo 'run.

    Gellid ateb hwnnw gyda phennill arall gan yr un bardd i gerflun o'r un Marcwis ar ben ei dŵr oedd:
    Y Marcwis of Anglesey
    A'i gledd yn ei law.
    Fedar o ddim newid llaw
    Pan mae hi'n bwrw glaw.
    Yn ystod y daith gallwch fentro y bydd penillion eraill i'w hychwanegu!

  • Arferai tafarn Yr Harp fod yn dafarn goets fawr gyda stablau helaeth yn y cefn.

  • Tafarn bysgota oedd y Black Boy yn Stryd Pedwar a Chwech gydag enw'r stryd yn atgof o bris aros yno ar un adeg!

    Mae hen, hen, hanes i'r rhan fwyaf o'r tafarnau ond sefydliad eithaf newydd ydi Cofi Roc - ond dyw hi ddim yn gywir dweud iddo gael ei godi ar hen safle argraffu a chyhoeddi Papurau'r Herald. Yr ochr arall i'r grisiau yr oedd hwnnw lle mae siop fwyd a Bwrdd yr Iaith Gymraeg erbyn heddiw mewn adeilad a godwyd yn dilyn tân mawr yn 1983.

    Ddrws neu ddau i ffwrdd mae'r Castle lle byddai John Eilian, un o olygyddion enwocaf yr Herald, yn mynd am lymaid canol bore ond hyd y gwelaf does dim son am y brenhinwr lliwgar a boneddigaidd hwn yn y gyfrol.

    Ond y mae golygydd arall - R J Rowlands sy'n fwy adnabyddus fel Meuryn sy'n awdur y geiriau bythgofiadwy:
    Bendithwyd, doniwyd y dyn
    Â gwybodaeth gwybedyn.
    Glyn Evans.
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý