Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes
Chwifio baner llong newydd
  • Sylwadau John Emyr ar Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes a olygwyd gan Tony Bianchi, Cyhoeddiadau Barddas, 2005. £15.95.


  • Yn ei ragymadrodd i'r flodeugerdd hon, fe ddywed y golygydd mai bwriad y gyfrol yw casglu ynghyd rai o'r cerddi mwyaf nodedig a gyhoeddwyd rhwng 1987 a 2004.

    Dewiswyd y dyddiad cychwynnol, meddai, am mai dyna oedd blwyddyn cyhoeddi Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif ac ni chafwyd blodeugerdd sylweddol, gynrychioliadol ers hynny.

    Clawr y llyfr "Dyma ymgais i ddewis, o blith y 7,000 a mwy o gerddi newydd a welodd olau dydd yn ystod y cyfnod hwn, ryw ddau gant o'r rhai mwyaf cofiadwy ... gan geisio arddel catholigiaeth eangfrydig a gochel rhag gormod o ragfarn bersonol ..."

    Y mae'n briodol inni ddiolch i Tony Bianchi am ei lafur cydwybodol.
    Nid ar redeg y mae aredig, ac nid gwaith y gellid ei wneud ar frys oedd dethol, yn y dull a nodir, y cerddi a gynhwyswyd o blith cynifer.

    Cyfrol yw hon, felly, a rydd lawer o foddhad i garedigion barddoniaeth Gymraeg.

    Mae'r rhagymadrodd 11 tudalen, sy'n ffrwyth darllen eang, yn cynnig sylwadau a chanfyddiadau a fydd o gymorth i'r sawl a hoffai ddarllen ymhellach yn y maes.

    Allwedd yn ein llaw
    Fel y dangosodd Alan Llwyd yn Barddoniaeth y Chwedegau, mae astudio cerddi cyfnod arbennig yn gallu rhoi allwedd yn ein llaw i agor drysau i ddeall rhai, o leiaf, o nodweddion y cyfnod dan sylw.

    Felly yma.
    Llwyddodd Tony Bianchi yntau i roi ei fys ar rai o nodweddion barddoniaeth Cymru a thueddiadau'r Cymry yn y cyfnod a ddewiswyd.

    "Gofyn roeddwn i," meddai, "a oedd yna ryw batrwm a lechai'n ddyfnach yng ngwead y testun, boed y testun hwnnw'n 'gyhoeddus' neu'n 'bersonol'."

    Gan gyfeirio at gerddi a beirdd penodol yn y gyfrol, dengys rai o'r nodweddion arwyddocaol:
    "Cynigiaf, felly, mai un o nodweddion amlycaf y cyfnod hwn yw'r newid a fu yn yr ymwybod o barhad ac o ffiniau hunaniaeth ...

    Gwerthoedd ac anesmwythyd
    Dengys y rhagymadrodd fod y gyfrol, fel y disgwyliem, yn cynnwys cerddi sy'n ymgorffori gwerthoedd traddodiadol, er enghraifft, gwladgarwch, yn ogystal â rhai sy'n mynegi anesmwythyd ac ansicrwydd y byd sydd ohoni.

    Wrth fyfyrio am y deunydd, cyfeiria'r golygydd ein sylw at rai o dueddiadau moderniaeth ac ôl-foderniaeth mewn llenyddiaeth a'r tyndra ffrwythlon a all fodoli rhyngddyn nhw a'r gwerthoedd mwy traddodiadol.

    Mae cerddi'r beirdd sy'n mynegi'r profiadau mwyaf cyfoes yn eu cysylltu â phrofiad pobloedd a gwledydd y byd.
    "Dyma feirdd sydd eu hunain yn byw yn y cyflwr symudol, cyfnewidiol, deuol rhwng pethau, ond sydd hefyd yn gweld y cyflwr hwnnw fel dolen yn clymu pobloedd a ddaliwyd mewn tiroedd neb ar draws y byd."

    Ennyn gwên a chodi chwerthin
    Er bod "archwilio arallrwydd" a'r cyffelyb yn nodweddion gwerth sylwi arnynt, rhyddhad yw canfod bod barddoniaeth gyfoes yn gallu hefyd ennyn gwên a chodi chwerthin.

    Diolchwn, felly, am gywydd Emyr Lewis, Malu, sy'n cynnig sylwadaeth effeithiol ar y math o drafod uchelgeisiol y ceir peth o'i naws yn rhagymadrodd y gyfrol hon.

    Yn y cywydd hwnnw, llwydda'r bardd i greu stori yn y person unigol, ac mae'r stori honno ar gynghanedd yn diddanu a dychanu yr un pryd - gan ddwyn i gof gywydd Dafydd ap Gwilym, Trafferth mewn Tafarn.

    Diau bod dipyn o hwyl a dychan o'r fath yn gymorth i gadw'r awen gyfoes rhag tyfu'n rhy hunangyfeiriadol a phwysig.

    Mae elfen ddiddanus debyg i'w gweld yng ngherddi rhai fel Grahame Davies, Ifor ap Glyn, Twm Morys a Myrddin ap Dafydd. Efallai fod y cyfle i ailafael yn yr arfer o ddatgan a pherfformio'u llinellau wedi bod o gymorth i nifer o'n beirdd cyfoes ailddarganfod effeithiolrwydd yr elfen hwyliog hon yn neuadd fawr y traddodiad barddol.

    Ymhlith y mathau eraill o gerddi a gynrychiolir yn y flodeugerdd y mae'r cerddi myfyrdodus, tyn eu gwead, a ddatblygwyd gan Bobi Jones, Dewi Stephen Jones, Menna Elfyn, Einir Jones ac eraill.

    Amrywiaeth cyfoethog
    Wrth ddarllen y gyfrol o glawr i glawr, cawn ein synnu gan amrediad eang ac amrywiaeth cyfoethog ein canu cyfoes. Ac fel y gellid disgwyl, mae nifer o'r cerddi mwyaf meistrolgar eu gwead yn gynnyrch cynganeddwyr crefftus fel Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd, Ieuan Wyn a Tudur Dylan Jones.

    Eto, mae'r cerddi mwy rhydd ac arbrofol eu strwythur a'u cywair - er enghraifft, myfyrdodau darganfyddus Gwyn Thomas, Gwyneth Lewis a Gerwyn Williams - hwythau yn hawlio'u lle â hyder diwarafun creadigaethau artistiaid sydd â llygad sicr i adnabod maes a thref eu priod ddawn.

    Ambell fwlch
    Yn anochel mewn detholiad personol fel hwn, ceir ambell fwlch.
    Er enghraifft, byddwn wedi disgwyl gweld cerddi yma o eiddo Derec Llwyd Morgan a Cen Williams.

    Byddwn wedi disgwyl hefyd i flodeugerdd o farddoniaeth gyfoes ein cyfeirio at ddatblygiadau posibl yn y dyfodol drwy gynnwys, er enghraifft, gerddi gan Tudur Rhys Hallam.

    O ran nifer y cerddi sy'n cynrychioli pob bardd, caiff rhai beirdd gynifer â naw neu ddeg o gerddi wrth eu henwau, ac eraill un neu ddwy yn unig.

    Hawdd deall bod y golygydd wedi gorfod brwydro yn erbyn prinder gofod, ond nid yw'r un gerdd Gair dros Ianws yn achos Siôn Aled, er enghraifft, er cystal y gerdd honno, yn ddigon i gynrychioli amrediad a dyfnder diddordeb y bardd hwnnw.

    Llong newydd
    Bid a fo am hynny, chwifiwn yma faner diolch i Tony Bianchi am lywio'r llong newydd hon o harbwr Barddas.

    Un o gryfderau'r gyfrol yw nodiadau'r golygydd sy'n gymorth i ddeall cyfeiriadaeth nifer o'r cerddi.

    Mae nodiadau o'r fath yn cynnwys perlau o wybodaeth i'r sawl a ymhoffodd mewn cerdd benodol ac sy'n awyddus i'w gwerthfawrogi ymhellach.

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý