Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Mab y Pregethwr - adolygiad
O ddadrithiad i ddadrithiad
  • Adolygiad Gwilym Owen o Mab y Pregethwr, hunangofiant Cynog Dafis. Y Lolfa. £12.95.

    Mae hon yn gyfrol unigryw.
    Mae'n swmpus - gellid dadlau ei bod yn rhy swmpus ac y byddai golygu cadarnach wedi cyfoethogi'r cyflwyniad - ond nid felly y bu.

    Clawr y llyfr Mae hi'n fanwl iawn, iawn, yn enwedig felly yn trafod manylion sydd efallai yn ymddangos yn ddibwys i'r darllenwr cyffredin.

    Oedd angen y penodau cychwynnol o gefndir teuluol ym Mrycheiniog a pha bwrpas sydd yna mewn dadansoddi cefndir morwrol Aberaeron a'r cylch?

    Ond dyna fo, dyna oedd penderfyniad yr awdur a'i hunangofiant o ydi o, wedi'r cyfan.

    Ac mae gan Cynog Dafis ei arddull bersonol iawn o ysgrifennu yn y Gymraeg - arddull yr ydw i yn ei chael yn bur lafurus a thrwm i'w darllen.

    O'r herwydd mae dal ati efo'r gyfrol hon yn gallu bod yn dasg hynod feichus - ond gyda pheth ymdrech fe lwyddais i aredig fy ffordd drwyddi.

    Adnabod o bell
    Roeddwn wedi adnabod y gwleidydd o bell ers degawdau ac felly yn eiddgar i ganfod beth yn union oedd troeon yr yrfa - ac i'r graddau hwnnw mae Cynog Dafis wedi cyflwyno darlun manwl a hynod o onest o'i fywyd.

    A beth ddysgais i?
    Wel, mi wn na fydd o'n hapus gyda'm dadansoddiad o'i hunangofiant. Gan mai'r hyn a ddarllenais i yn Mab y Pregethwr oedd catalog o ddadrithiadau.

    Cyfrol drist?
    O'r herwydd cyfrol drist ydi hon ac yn awgrymu dyn unig ac unigolyddol. Dyn a roddodd y pwyslais ar hyd ei oes ar ddatblygu syniadaeth ond a fethodd bron bob tro a throi'r syniadau hynny yn bethau y gellid eu hymarfer.

    Ond ynglŷn â'r dadrithio yna.
    Cafodd fwy na'i siâr efallai o brofiadau felly gyda rhai o'i athrawon yng Ngheredigion a Chastell-nedd ond fe ddaeth y dadrithiad mawr cyntaf pan aeth i Goleg Aberystwyth a chael ei siomi'n llwyr gan staff Adran y Gymraeg yn y Coleg Ger y Lli - yn gymaint felly nes troi ei gefn ar wneud gradd yn iaith y nefoedd ac ymuno ag adran y Saesneg.

    Ac ni fu fawr o sglein ar ei yrfa golegol wedi hynny yn ô lei dystiolaeth ei hun.

    Yn athro
    Fe'i cafodd ei hun yn athro ysgol yng Ngheredigion ac er iddo gael cyfnodau digon hapus yn y gwaith - yn enwedig felly yn datblygu dwyieithrwydd yn y Sir - ei siomi a gafodd eto ac er iddo geisio fwy nag unwaith am swydd dirprwy brifathro cafodd ei wrthod bob tro.

    Yn y diwedd, ychydig fisoedd cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol fe gododd ei bac a symud allan o ddysgu ac i swydd arall yn Abertawe.

    Credodd ar un adeg y gallai wneud bywoliaeth o ffermio a rhoddodd gynnig ar wireddu'r freuddwyd honno ond yn dilyn cyfnod o galedi bu'n rhaid rhoi'r gorau iddi.

    Yna, ceisiodd sefydlu mudiad cydweithredol gyda chyfeillion yn ardal Talgarreg - ond byrhoedlog iawn oedd yr ymdrech honno.

    Taith grefyddol
    A chafodd Mab y Pregethwr ddim taith hwylus iawn ychwaith ar y llwybr crefyddol. Fe'i maged, wrth gwrs, yn fab y mans ar aelwyd Bresbyteraidd.

    Fel pob gŵr ifanc bu yn y diffeithwch am blwc cyn ymdaflu am gyfnod maith a hynod o weithgar gydag Undodiaid y Smotyn Du.

    Ac eto, er iddo ddweud unwaith y byddai ymuno â'r Eglwys cyn waethed yn ei olwg a throi at y Blaid Geidwadol y mae erbyn heddiw yn aelod o'r Eglwys yng Nghymru.

    Gwleidydd diffuant
    Olreit, mi clywa i chi'n dweud, mae'n deg sôn am y dadrithiadau yna - ond gwleidydd diffuant ei weledigaeth ydi Cynog Dafis a chafodd o erioed ei ddadrithio yn y maes hwnnw.
    Wel, dydw i ddim mor sicr.

    Dydi'r pleidiau gwleidyddol ddim bob amser yn gweld gwerth mewn gwleidyddion syniadau. Pobl sy'n hoff o fyfyrio a chyfarfod a pharatoi polisïau a strategaethau.

    Gwleidydd felly yw ac oedd Cynog Dafis ac fe fu yna gyfnodau pan oedd o'n cael ei ddadrithio'n llwyr gan ei gyd genedlaetholwyr - a bryd hynny roedd o'n troi cefn ac yn ymdaflu i geisio goleuo mudiad fel Cymdeithas yr Iaith

    Ac yn eu tro byddai'r rheiny yn gwrthod ei argymhellion - yna'n ôl at Blaid Cymru a fo.

    Peth fel yna ydi dadrithiadau gwleidyddol Cymreig a Cymraeg mae'n debyg.

    Buddugoliaeth fawr
    Ond yn 1992 fe gafodd ei fuddugoliaeth fawr a'i ethol yn Aelod Seneddol ar ran Plaid Cymru a'r Gwyrddion dros Geredigion a Gogledd Penfro.

    Buddugoliaeth gwbl annisgwyl ac yn y gyfrol mae Cynog Dafis yn cyhuddo'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yng Nghymru - yn gwbl deg - o fethu ag anfon uned deledu allanol i Aberaeron ar gyfer y canlyniad.

    Mae'n awgrymu mai bai Bethan Kilfoil, y gohebydd gwleidyddol, oedd hynny ond anghywir yw dweud hynny - y fi, a neb arall, oedd yn gyfrifol am y camgymeriad.
    Doeddwn i ddim yn disgwyl canlyniad o'r fath ac, fel cynghorwyr Lerpwl, rwy'n ymddiheuro!

    Ond yma eto bu dadrith gyda'r briodas rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Werdd yn dod i ben a hynny, efallai, yn ei dro yn troi yn drasiedi i'r cenedlaetholwyr yng Ngheredigion.

    Dafydd Wigley
    Y mae yna un dadrithiad arall - y pwysicaf un efallai. Y dadrithiad gafodd Cynog Dafis gyda Dafydd Wigley a oedd yn Llywydd Plaid Cymru ac yn arweinydd y Blaid yn y Cynulliad Cenedlaethol.

    Cynog Dafis Ac, yn wir, er bod yr awdur yn crynhoi'r cyfan mewn ychydig baragraffau gofalus yn y gyfrol or eiriol hon mae'n gwbl amlwg mai y fo a'i gyfaill, Ieuan Wyn Jones, mewn dau gyfarfod hwyrol yn swyddfa Wigley a yrrodd arweinydd poblogaidd Plaid Cymru i'r anialwch.

    Yn wir, mae Cynog Dafis yn dyfynnu'r union eiriau a ddywedodd wrth y Llywydd - ac mae'n datgan ei bod yn edifar ganddo wneud hynny.

    Fe garwn i pe byddai wedi ceisio dadansoddi canlyniadau'r geiriau ar statws Plaid Cymru ers y noson hanesyddol arall.

    Dau mewn ras
    Ac mae'r gyfrol yn gorffen gydag un dadrithiad bach hynod o drist - wedi i rywun arall ddweud wrth Ieuan Wyn Jones nad y fo oedd y dyn i lywyddu Plaid Cymru roedd yna ddau yn y ras i'w olynu; Cynog Dafis a Dafydd Iwan.

    Fel y gwyddom, Dafydd Iwan aeth a hi ac ar noson y cyhoeddi mewn datganiad fe honnodd Cynog Dafis fod y Blaid wedi dewis llywydd newydd ardderchog - ond dywed yn yr hunangofiant nad oedd wedi dweud hefyd mai ef oedd y gorau hefyd.

    Trowch at ddarllen Mab y Pregethwr. Bydd angen amser ac amynedd ond efallai y gwelwch chi stori wahanol . Gobeithio hynny beth bynnag!

  • Ar Gwales:

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Adolygiad Aled Elwyn Jones
    Gwenallt yn siom


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý