Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Geiriadur Deintyddiaeth
Cur pen gyda geiriau'r geg
Mae geiriadur newydd a gyhoeddwyd yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Ddeintyddol, Mehefin 18 2005, yn torri tir newydd yn y Gymraeg.

Y Geiriadur Deintyddiaeth dan olygyddiaeth J Elwyn Hughes yw'r casgliad cyntaf o dermau deintyddol i'w ei gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg.

Ar gyfer llunio'r geiriadur bu Mr Hughes yn cydweithio â phanel yn cynnwys Dr Gareth Davies, Cadeirydd y Gymdeithas Ddeintyddol, William Parry, Orthodontegydd Ymgynghorol Ysbyty Gwynedd, a'r deintyddion Bryn Morris Jones a Carys Harper Lloyd gyda'r Dr Ieuan Parri yn ymgynghorydd meddygol.

Cyflwynir y copi cyntaf i Einir, gweddw T. Arfon Williams a roes sbardun i ddechrau'r holl waith drwy drosi cryn 400 o dermau.

"Erbyn hyn, tyfodd y 400 gan Arfon i fod rhwng 5,000 a 6,000 o dermau, a'r cyfan wedi eu croesgyfeirio er hwylustod i'r defnyddiwr, mewn 180 o dudalennau A5," meddai.

Clawr y llyfr Un peth sy'n hanfodol i'r geiriadur newydd ydi croesgyfeiriadaeth lwyr er hwylustod i ddefnyddwyr.

Er enghraifft, gellir dod o hyd i gyfieithiad o acute necrotizing ulcerative gingivitis, dan y pedwar gair unigol.

Bydd copi o'r geiriadur yn cael ei anfon at yr holl fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy'n cael eu hyfforddi i fod yn ddeintyddion.

Gall rhai y tu allan i'r proffesiwn deintyddol archebu copi am £5.00 (£6.50 drwy'r post) gan J. Elwyn Hughes, Bryn Ogwen, Bethel, Caernarfon. LL55 3AA.

Mae hwn yn gyfnod eithriadol o brysur i J. Elwyn Hughes.
Fel rhan o'r lansiad traddododd Ddarlith Goffa T. Arfon Williams ar y testun, Pytiau Difyr yn hanes Caradog Prichard yn seiliedig ar yr ymchwil a wnaeth ar gyfer y llyfr cynhwysfawr y mae newydd ei gyhoeddi , Byd a Bywyd Caradog Prichard.

Ar ben hynny, mae yng nghanol ei orchwyl blynyddol o olygu cyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol .

Dewis geiriau - John Elwyn Hughes yn dweud nad oedd hi bob amser yn hawdd penderfynu ar y geiriau iawn. Cliciwch

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch

Wil Ty Brics
Siwr fod yna eiriau sy'n lond ceg o fewn y cloriau yna. Oedd sgwennu'r llyfr fel tynnu dant neu'n dod a dwr i ddannedd JEH? Dwi wedi danto ar y pyns ma rwan.



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý